Hen Destament

Testament Newydd

Ruth 4:9-22 beibl.net 2015 (BNET)

9. Felly dyma Boas yn dweud wrth yr arweinwyr a phawb arall oedd yno, “Dych chi'n dystion, heddiw, fy mod i'n mynd i brynu gan Naomi bopeth oedd piau Elimelech a'i feibion Cilion a Machlon.

10. Dw i hefyd yn derbyn y cyfrifoldeb am Ruth y Foabes, gweddw Machlon. Dw i'n ei chymryd hi'n wraig i mi er mwyn codi etifedd i gadw enw'r un fu farw ar ei etifeddiaeth, rhag i'r enw ddiflannu o'r dref. Dych chi'n dystion i hyn, heddiw!”

11. A dyma'r arweinwyr a phawb arall oedd yn y llys yn dweud, “Ydyn, dŷn ni'n dystion. Boed i Dduw wneud y ferch yma sy'n dod i dy dŷ di yn debyg i Rachel a Lea, y ddwy sefydlodd Israel. A boed i tithau lwyddo yn Effrata, a gwneud enw i ti dy hun yn Bethlehem.

12. A thrwy'r ferch ifanc yma mae e wedi ei rhoi i ti, boed i Dduw wneud dy deulu di fe teulu Perets roddodd Tamar i Jwda.”

13. Felly dyma Boas yn priodi Ruth ac yn cysgu gyda hi. Dyma'r ARGLWYDD yn gadael iddi feichiogi, a chafodd fab.

14. A dyma'r gwragedd yn dweud wrth Naomi, “Bendith ar yr ARGLWYDD! Wnaeth e ddim dy adael heb berthynas i ofalu amdanat ti! Bydd e'n enwog yn Israel.

15. Bydd e'n rhoi bywyd yn ôl i ti. Bydd e'n gofalu amdanat yn dy henaint. Mae dy ferch-yng-nghyfraith sy'n dy garu di wedi rhoi genedigaeth iddo – ac mae hi'n well na saith mab i ti!”

16. A dyma Naomi yn cymryd y bachgen ar ei glin a'i fagu.

17. Dyma'r gwragedd lleol yn rhoi'r enw Obed iddo, a dweud, “Mae Naomi wedi cael mab!”Obed oedd tad Jesse a thaid y brenin Dafydd.

18. Dyma ddisgynyddion Perets:Perets oedd tad Hesron,

19. Hesron oedd tad Ram,Ram oedd tad Aminadab,

20. Aminadab oedd tad Nachshon,Nachshon oedd tad Salmon,

21. Salmon oedd tad Boas,Boas oedd tad Obed,

22. Obed oedd tad Jesse,a Jesse oedd tad Dafydd.

Darllenwch bennod gyflawn Ruth 4