Hen Destament

Testament Newydd

Obadeia 1:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Gweledigaeth Obadeia.Dyma beth mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, wedi ei ddweud am Edom. Cawson ni neges gan yr ARGLWYDD, pan gafodd negesydd ei anfon i'r gwledydd, yn dweud, “Codwch! Gadewch i ni fynd i ryfel yn ei herbyn!”

2. Mae'r ARGLWYDD yn dweud wrth Edom:“Dw i'n mynd i dy wneud di'n wlad fach wan;byddan nhw'n cael cymaint o hwyl ar dy ben.

3. Mae dy falchder wedi dy dwyllo di!Ti'n byw yn saff yng nghysgod y graig,ac mae dy gartre mor uchel nes dy fod yn meddwl,‘Fydd neb yn gallu fy nhynnu i lawr o'r fan yma!’

4. Ond hyd yn oed petaet ti'n gallu codi mor uchel â'r eryr,a gosod dy nyth yng nghanol y sêr,bydda i'n dy dynnu di i lawr!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

5. “Petai lladron yn dod atat ti,neu ysbeilwyr yn y nos,bydden nhw ond yn dwyn beth roedden nhw eisiau!Petai casglwyr grawnwin yn dod atat ti,oni fydden nhw'n gadael rhywbeth i'w loffa?Ond byddi di'n cael dy ddinistrio'n llwyr!

6. Bydd pobl Esau yn colli popeth;bydd y trysorau gasglon nhw wedi eu dwyn!

7. Mae dy gynghrheiriaid wedi dy dwyllo;cei dy yrru at dy ffiniau.Mae dy ‛helpwyr‛ wedi cael y llaw uchaf arnat ti,a'r ‛ffrindiau‛ oedd yn gwledda gyda tiwedi gosod trap heb i ti wybod.”

8. “Bryd hynny” meddai'r ARGLWYDD,“bydda i'n difa rhai doeth Edom,a bydd y deallus yn diflannu o fynydd Esau.

Darllenwch bennod gyflawn Obadeia 1