Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 8:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

2. “Dywed wrth Aaron, ‘Pan fyddi'n gosod y lampau yn eu lle, gwna'n siŵr fod y saith lamp yn taflu eu golau o flaen y menora.’”

3. A dyma Aaron yn gwneud hynny. Dyma fe'n gosod y lampau fel eu bod yn taflu eu golau o flaen y menora, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.

4. Gwaith morthwyl oedd y menora – aur wedi ei guro. Roedd yn waith morthwyl o'i goes i'w betalau. Cafodd ei wneud i'r union batrwm roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddangos i Moses.

5. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

6. “Rwyt i gymryd y Lefiaid o blith pobl Israel a mynd trwy'r ddefod o'i puro nhw.

7. A dyma sut mae gwneud hynny: Rwyt i daenellu dŵr y puro arnyn nhw. Wedyn rhaid iddyn nhw siafio eu corff i gyd, golchi eu dillad, ac ymolchi.

8. Wedyn maen nhw i gymryd tarw ifanc, gyda'i offrwm o rawn (sef y blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd). Yna cymryd tarw ifanc arall yn offrwm puro.

9. Wedyn rwyt i fynd â'r Lefiaid i sefyll o flaen Pabell Presenoldeb Duw, a casglu pobl Israel i gyd at ei gilydd yno.

10. Yna mae'r bobl i osod eu dwylo ar y Lefiaid tra maen nhw'n sefyll o flaen yr ARGLWYDD.

11. Wedyn mae Aaron i gyflwyno'r Lefiaid i'r ARGLWYDD fel offrwm sbesial gan bobl Israel, i'w cysegru nhw i waith yr ARGLWYDD.

12. Wedyn bydd y Lefiaid yn gosod eu dwylo ar ben y ddau darw ifanc. Bydd un yn offrwm puro, a'r llall yn cael ei offrymu i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD, i wneud pethau'n iawn rhwng Duw a'r Lefiaid.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 8