Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 34:6-18 beibl.net 2015 (BNET)

6. “‘Y Môr Mawr (sef Môr y Canoldir) fydd y ffin i'r gorllewin.

7. “‘Bydd ffin y gogledd yn mynd o Fôr y Canoldir i Fynydd Hor,

8. ac yna i Fwlch Chamath ac ymlaen i Sedad.

9. Yna o Sedad ymlaen i Siffron, ac wedyn i Chatsar-einan. Dyna fydd ffin y gogledd.

10. “‘Bydd ffin y dwyrain yn mynd i gyfeiriad y de o Chatsar-einan i Sheffam;

11. wedyn o Sheffam i Ribla sydd i'r dwyrain o Ain. Yna i lawr ochr ddwyreiniol Llyn Galilea,

12. ac ar hyd Afon Iorddonen yr holl ffordd i'r Môr Marw. Dyna fydd y ffiniau o gwmpas eich tir chi.’”

13. A dyma Moses yn dweud wrth bobl Israel: “Dyma'r tir fydd yn cael ei rannu rhyngoch chi. Mae'r ARGLWYDD wedi dweud ei fod i gael ei roi i'r naw llwyth a hanner sydd ar ôl.

14. Mae llwythau Reuben a Gad, a hanner llwyth Manasse wedi cael eu tir nhw.

15. Maen nhw wedi cael tir yr ochr yma i'r Iorddonen, sef i'r dwyrain o Jericho.”

16. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

17. “Dyma'r dynion fydd yn gyfrifol am rannu'r tir rhyngoch chi: Eleasar yr offeiriad a Josua fab Nwn.

18. A rhaid i chi gymryd un arweinydd o bob llwyth i helpu gyda'r gwaith.”

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 34