1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
2. “Dywed wrth bobl Israel: ‘Pan ewch i mewn i wlad Canaan, dyma'r ffiniau i'r tir dw i'n ei roi i chi i'w etifeddu:
3. Bydd ffin y de yn mynd o anialwch Sin i'r ffin gydag Edom. Bydd yn ymestyn i'r dwyrain at ben isaf y Môr Marw.
4. Bydd yn mynd i'r de, heibio Bwlch Acrabbîm (sef Bwlch y Sgorpion), ymlaen i Sin ac yna i gyfeiriad Cadesh-barnea, ac wedyn i Chatsar-adar a throsodd i Atsmon.
5. O'r fan honno bydd y ffin yn troi i ddilyn Wadi'r Aifft ac allan i Fôr y Canoldir.
6. “‘Y Môr Mawr (sef Môr y Canoldir) fydd y ffin i'r gorllewin.
7. “‘Bydd ffin y gogledd yn mynd o Fôr y Canoldir i Fynydd Hor,
8. ac yna i Fwlch Chamath ac ymlaen i Sedad.