Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 33:40-56 beibl.net 2015 (BNET)

40. Wedyn clywodd brenin Canaaneaidd Arad, oedd yn byw yn y Negef (de gwlad Canaan), fod pobl Israel ar eu ffordd.

41. Yna dyma bobl Israel yn gadael Mynydd Hor a gwersylla yn Salmona.

42. Yna gadael Salmona a gwersylla yn Pwnon.

43. Gadael Pwnon a gwersylla yn Oboth.

44. Gadael Oboth a gwersylla yn Ïe-hafarîm, ar y ffin gyda Moab.

45. Gadael Ïe-hafarîm a gwersylla yn Dibon-gad.

46. Gadael Dibon-gad a gwersylla yn Almon-diblathaim.

47. Gadael Almon-diblathaim a gwersylla ym mynyddoedd Afarîm, gyferbyn â Nebo.

48. Gadael mynyddoedd Afarîm a gwersylla ar wastatir Moab wrth Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho.

49. (Roedden nhw'n gwersylla ar wastatir Moab wrth Afon Iorddonen, yr holl ffordd o Beth-ieshimoth i Abel-sittim.)

50. Pan oedden nhw'n gwersylla ar wastatir Moab wrth Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

51. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Pan fyddwch chi wedi croesi'r Iorddonen a mynd i mewn i wlad Canaan

52. dw i eisiau i chi yrru'r bobl sy'n byw yno allan o'r wlad. Rhaid i chi ddinistrio'r eilunod wedi eu cerfio, a'r delwau o fetel tawdd, a chwalu'r allorau paganaidd i gyd.

53. Dw i eisiau i chi gymryd y wlad drosodd, a setlo i lawr ynddi. Dw i wedi rhoi'r wlad i chi. Chi piau hi.

54. “‘Mae'r tir i gael ei rannu rhwng y claniau drwy fwrw coelbren. Mae faint o dir mae pob clan yn ei etifeddu yn dibynnu ar faint y clan – pa mor fawr neu fach ydy e. Ond mae'r lleoliad yn dibynnu ar ble mae'r coelbren yn syrthio. Mae i'w rannu rhwng llwythau'r hynafiaid.

55. Os na wnewch chi yrru'r bobl sy'n byw yno allan o'r wlad, fyddan nhw'n achosi dim byd ond trwbwl i chi – fel llwch yn eich llygaid neu ddraenen yn eich ochr.

56. A bydda i'n gwneud i chi beth roeddwn i'n bwriadu ei wneud iddyn nhw.’”

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 33