1. Dyma'r lleoedd wnaeth pobl Israel deithio iddyn nhw (yn eu trefn) ar ôl dod allan o wlad yr Aifft dan arweiniad Moses ac Aaron.
2. Roedd Moses wedi cadw cofnod o wahanol gamau'r daith, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gofyn iddo wneud. A dyma eu symudiadau nhw:
3. Gadawodd pobl Israel Rameses ar y diwrnod ar ôl y Pasg, sef y pymthegfed diwrnod o'r mis cyntaf. Aethon nhw allan yn hyderus, o flaen pobl yr Aifft i gyd.
4. Roedd pobl yr Aifft wrthi'n claddu eu meibion hynaf. Yr ARGLWYDD oedd wedi eu lladd nhw y noson cynt, ac wedi dangos fod eu duwiau nhw yn dda i ddim.
5. Ar ôl gadael Rameses, dyma bobl Israel yn gwersylla yn Swccoth.
6. Yna gadael Swccoth a gwersylla yn Etham, sydd ar ymyl yr anialwch.
7. Gadael Etham a mynd yn ôl i gyfeiriad Pi-hachiroth, sydd i'r dwyrain o Baal-tseffon, a gwersylla wrth ymyl Migdol.
8. Gadael Pi-hachiroth, a mynd trwy ganol y môr i'r anialwch yr ochr draw. Yna teithio am dri diwrnod yn anialwch Etham, a gwersylla yn Mara.
9. Gadael Mara a gwersylla yn Elim, lle roedd deuddeg ffynnon a saith deg coeden balmwydd.
10. Gadael Elim a gwersylla wrth y Môr Coch.
11. Gadael y Môr Coch a gwersylla yn Anialwch Sin.
12. Yna gadael Anialwch Sin a gwersylla yn Doffca.
13. Gadael Doffca a gwersylla yn Alwsh.