Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 30:5-13 beibl.net 2015 (BNET)

5. Ond os ydy ei thad yn dweud yn wahanol pan mae'n clywed am y peth, dydy'r addewidion wnaeth hi ddim yn ddilys. Bydd yr ARGLWYDD yn maddau iddi, am fod ei thad wedi dweud yn wahanol.

6. “Os ydy'r ferch yn priodi ar ôl tyngu llw neu wneud addewid byrbwyll,

7. a'i gŵr yn clywed am y peth ond yn dweud dim, mae'r addewid wnaeth hi yn sefyll – rhaid iddi wneud beth wnaeth hi addo.

8. Ond os ydy ei gŵr yn dweud yn wahanol pan mae'n clywed am y peth, dydy'r addewidion wnaeth hi ddim yn ddilys. Bydd yr ARGLWYDD yn maddau iddi.

9. “Os ydy gwraig weddw, neu wraig sydd wedi cael ysgariad yn gwneud addewid, rhaid iddi wneud beth wnaeth hi addo.

10. Os gwnaeth hi'r adduned, neu osod ei hun dan lw pan oedd hi'n byw gyda'i gŵr

11. a'i gŵr yn clywed am y peth, ond yn dweud dim yn wahanol, bydd rhaid iddi wneud beth wnaeth hi addo.

12. Ond os ydy ei gŵr hi yn dweud yn wahanol pan mae'n clywed am y peth, dydy'r addewidion wnaeth hi ddim yn ddilys. Mae ei gŵr wedi dweud yn wahanol, a bydd yr ARGLWYDD yn maddau iddi.

13. Felly mae ei gŵr yn gallu cadarnhau'r addewid mae'n ei wneud i ymwrthod â rhywbeth, neu'n gallu dweud yn wahanol.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 30