Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 27:12-23 beibl.net 2015 (BNET)

12. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dringa i ben mynyddoedd Afarîm, i ti weld y tir dw i'n ei roi i bobl Israel.

13. Ar ôl i ti gael ei weld, byddi di, fel Aaron dy frawd, yn marw,

14. am i'r ddau ohonoch chi wrthod gwneud beth ddwedais i yn anialwch Sin. Roedd y bobl wedi gwrthryfela, a dangos dim parch ata i wrth y dŵr,” (sef Ffynnon Meriba yn Cadesh yn anialwch Sin.)

15. Yna dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD:

16. “O ARGLWYDD, y Duw sy'n rhoi bywyd i bopeth byw, rhaid i ti benodi rhywun i arwain y bobl.

17. Rhaid cael rhywun i'w harwain nhw allan i ryfel, a dod â nhw adre wedyn, neu bydd pobl yr ARGLWYDD fel defaid heb fugail i ofalu amdanyn nhw!”

18-19. A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Dw i eisiau i ti gymryd Josua fab Nwn – dyn sydd â'r Ysbryd ynddo – a'i gomisiynu e i'r gwaith drwy osod dy law arno. Gwna hyn yn gyhoeddus o flaen Eleasar yr offeiriad a'r bobl i gyd.

20. Maen nhw i weld dy fod wedi trosglwyddo'r awdurdod sydd gen ti iddo fe, ac wedyn byddan nhw'n ufuddhau iddo.

21. Bydd yn mynd at Eleasar yr offeiriad pan fydd angen arweiniad arno, a bydd Eleasar yn defnyddio'r Wrim i ddarganfod beth mae'r ARGLWYDD eisiau – pryd i fynd allan i ymladd, a pryd i ddod yn ôl.”

22. Felly dyma Moses yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Dyma fe'n gwneud i Josua sefyll o flaen Eleasar yr offeiriad a'r bobl i gyd.

23. Yna dyma fe'n ei gomisiynu i'r gwaith drwy osod ei ddwylo arno, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses am wneud.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 27