Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 26:55-65 beibl.net 2015 (BNET)

55. Rhaid defnyddio coelbren wrth rannu'r tir, ond mae canlyniadau'r cyfrifiad i gael eu defnyddio i benderfynu faint o dir mae pob llwyth yn ei gael.

56. Bydd y tir mae'r llwythau bach a mawr yn ei etifeddu yn cael ei bennu drwy daflu coelbren.”

57. A dyma'r Lefiaid gafodd eu cyfrif – disgynyddion Gershon, Cohath a Merari.

58. A disgynyddion eraill Lefi – y Libniaid, Hebroniaid, Machliaid, Mwshiaid a Corahiaid. Cohath oedd tad Amram,

59. ac enw gwraig Amram oedd Iochefed, merch Lefi, gafodd ei geni yn yr Aifft. Wedyn plant Amram a Iochefed oedd Aaron, Moses, a Miriam eu chwaer.

60. Roedd Aaron yn dad i Nadab, Abihw, Eleasar ac Ithamar.

61. Ond roedd Nadab ac Abihw wedi marw wrth ddefnyddio tân o rywle arall i wneud offrwm i'r ARGLWYDD.

62. Roedd 23,000 o Lefiaid – pob dyn a bachgen oedd dros fis oed. Doedden nhw ddim wedi cael eu cyfrif gyda gweddill pobl Israel, am fod dim tir i gael ei roi iddyn nhw fel i weddill llwythau Israel.

63. Felly dyna ffigyrau'r cyfrifiad wnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad, pan oedd pobl Israel yn gwersylla ar wastatir Moab, wrth ymyl Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho.

64. Doedd neb o'r dynion gafodd eu cyfrif y tro yma, wedi eu cynnwys yn y cyfrifiad cyntaf wnaeth Moses ac Aaron yn anialwch Sinai.

65. Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud, “Byddan nhw i gyd yn marw yn yr anialwch!” A doedd neb ohonyn nhw ar ôl, ar wahân i Caleb fab Jeffwnne a Josua fab Nwn.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 26