50. Cyfanswm Nafftali oedd 45,400.
51. Felly cyfanswm y dynion gafodd eu cyfri yn Israel oedd 601,730.
52. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
53. “Mae'r tir i gael ei rannu rhwng y llwythau ar sail y ffigyrau yma.
54. Mae'r llwythau mwyaf i gael etifeddu mwy o dir na'r llwythau lleiaf. Mae faint o dir fydd pob llwyth yn ei gael yn seiliedig ar y ffigyrau yma.
55. Rhaid defnyddio coelbren wrth rannu'r tir, ond mae canlyniadau'r cyfrifiad i gael eu defnyddio i benderfynu faint o dir mae pob llwyth yn ei gael.
56. Bydd y tir mae'r llwythau bach a mawr yn ei etifeddu yn cael ei bennu drwy daflu coelbren.”
57. A dyma'r Lefiaid gafodd eu cyfrif – disgynyddion Gershon, Cohath a Merari.
58. A disgynyddion eraill Lefi – y Libniaid, Hebroniaid, Machliaid, Mwshiaid a Corahiaid. Cohath oedd tad Amram,