5. O lwyth Reuben (mab hynaf Jacob) – disgynyddion Hanoch, Palw,
6. Hesron, a Carmi.
7. Cyfanswm Reuben oedd 43,730.
8. (Roedd Eliab yn un o ddisgynyddion Palw,
9. sef tad Nemwel, Dathan ac Abiram. Roedd Dathan ac Abiram gyda Cora yn arwain y bobl wnaeth droi yn erbyn Moses ac Aaron a gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD.
10. A dyma'r ddaear yn agor ac yn eu llyncu nhw a Cora. Lladdodd y tân ddau gant pum deg ohonyn nhw. Mae beth ddigwyddodd iddyn nhw yn rhybudd i ni.
11. Ond wnaeth llinach Cora ei hun ddim diflannu'n llwyr.)
12. O lwyth Simeon – disgynyddion Nemwel, Iamin, Iachin,
13. Serach, a Saul.
14. Cyfanswm Simeon oedd 22,200.
15. O lwyth Gad – disgynyddion Seffon, Haggi, Shwni,
16. Osni, Eri,
17. Arod ac Areli.
18. Cyfanswm Gad oedd 40,500.
19. Roedd gan Jwda ddau fab, Er ac Onan, ond buodd y ddau farw yn fuan yn Canaan.
20. O lwyth Jwda – disgynyddion Shela, Perets, a Serach.