Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 26:49-62 beibl.net 2015 (BNET)

49. Jeser, a Shilem.

50. Cyfanswm Nafftali oedd 45,400.

51. Felly cyfanswm y dynion gafodd eu cyfri yn Israel oedd 601,730.

52. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

53. “Mae'r tir i gael ei rannu rhwng y llwythau ar sail y ffigyrau yma.

54. Mae'r llwythau mwyaf i gael etifeddu mwy o dir na'r llwythau lleiaf. Mae faint o dir fydd pob llwyth yn ei gael yn seiliedig ar y ffigyrau yma.

55. Rhaid defnyddio coelbren wrth rannu'r tir, ond mae canlyniadau'r cyfrifiad i gael eu defnyddio i benderfynu faint o dir mae pob llwyth yn ei gael.

56. Bydd y tir mae'r llwythau bach a mawr yn ei etifeddu yn cael ei bennu drwy daflu coelbren.”

57. A dyma'r Lefiaid gafodd eu cyfrif – disgynyddion Gershon, Cohath a Merari.

58. A disgynyddion eraill Lefi – y Libniaid, Hebroniaid, Machliaid, Mwshiaid a Corahiaid. Cohath oedd tad Amram,

59. ac enw gwraig Amram oedd Iochefed, merch Lefi, gafodd ei geni yn yr Aifft. Wedyn plant Amram a Iochefed oedd Aaron, Moses, a Miriam eu chwaer.

60. Roedd Aaron yn dad i Nadab, Abihw, Eleasar ac Ithamar.

61. Ond roedd Nadab ac Abihw wedi marw wrth ddefnyddio tân o rywle arall i wneud offrwm i'r ARGLWYDD.

62. Roedd 23,000 o Lefiaid – pob dyn a bachgen oedd dros fis oed. Doedden nhw ddim wedi cael eu cyfrif gyda gweddill pobl Israel, am fod dim tir i gael ei roi iddyn nhw fel i weddill llwythau Israel.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 26