23. O lwyth Issachar – disgynyddion Tola, Pwa,
24. Iashŵf, a Shimron.
25. Cyfanswm Issachar oedd 64,300.
26. O lwyth Sabulon – disgynyddion Sered, Elon a Iachle-el.
27. Cyfanswm Sabulon oedd 60,500.
28. Roedd dau lwyth, sef Manasse ac Effraim, yn ddisgynyddion i Joseff.
29. O lwyth Manasse – disgynyddion Machir a'i fab Gilead.
30. O Gilead – disgynyddion Ieser, Chelec,
31. Asriel, Sechem,
32. Shemida a Cheffer.
33. (Doedd gan Seloffchad fab Cheffer ddim meibion, dim ond merched. Ac enwau'r merched oedd Machla, Noa, Hogla, Milca a Tirtsa.)
34. Cyfanswm Manasse oedd 52,700.
35. O lwyth Effraim – disgynyddion Shwtelach, Becher, a Tachan.
36. Ac o Shwtelach – disgynyddion Eran.
37. Cyfanswm Effraim oedd 32,500. Roedden nhw i gyd yn ddisgynyddion Joseff, drwy Manasse ac Effraim.
38. O lwyth Benjamin – disgynyddion Bela, Ashbel, Achiram,
39. Sheffwffâm, a Hwffam.
40. Wedyn o feibion Bela – disgynyddion Ard a Naaman.