Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 10:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

2. “Gwnewch ddau utgorn arian – gwaith morthwyl. Maen nhw i gael eu defnyddio i alw'r bobl at ei gilydd, ac i alw'r gwersyll i symud.

3. Pan mae'r ddau utgorn yn cael eu canu gyda'i gilydd bydd y bobl yn gwybod eu bod i gasglu o flaen mynedfa Pabell Presenoldeb Duw.

4. Ond os mai un utgorn sy'n canu, dim ond arweinwyr llwythau Israel sydd i ddod.

5. Pan mae un nodyn hir yn cael ei seinio, mae'r rhai sy'n gwersylla i'r dwyrain o'r Tabernacl i symud allan.

6. Wedyn pan mae nodyn hir arall yn cael ei seinio, mae'r rhai sy'n gwersylla ar yr ochr ddeheuol i'w dilyn. Y nodyn hir ydy'r arwydd eu bod i symud allan.

7. Ond i alw pawb at ei gilydd rhaid canu nodau gwahanol.

8. Meibion Aaron, yr offeiriaid, sydd i ganu'r utgyrn. A dyna fydd y drefn bob amser, ar hyd y cenedlaethau.

9. Ar ôl i chi gyrraedd eich gwlad, os byddwch chi'n mynd i ryfel yn erbyn eich gelynion, rhaid seinio ffanffer ar yr utgyrn yma. Wedyn bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn cofio amdanoch chi ac yn eich achub chi o afael eich gelynion.

10. “Canwch yr utgyrn hefyd ar yr adegau hynny pan fyddwch chi'n dathlu – ar y Gwyliau blynyddol ac ar ddechrau pob mis pan fyddwch chi'n cyflwyno eich offrymau i'w llosgi'n llwyr a'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Bydd yr utgyrn yn eich atgoffa chi i gadw'ch meddyliau ar Dduw. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.”

11. Ar ddechrau'r ail flwyddyn wedi i bobl Israel ddod allan o'r Aifft (ar yr ugeinfed diwrnod o'r ail fis) dyma'r cwmwl yn codi oddi ar dabernacl y dystiolaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 10