Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 7:56-72 beibl.net 2015 (BNET)

56. Teulu NetsïachTeulu Chatiffa.

57. Teuluoedd gweision Solomon:Teulu SotaiTeulu SofferethTeulu Perida

58. Teulu JalaTeulu DarconTeulu Gidel

59. Teulu SheffateiaTeulu ChattilTeulu Pochereth-hatsbaîmTeulu Amon.

60. Cyfanswm gweision y deml a theuluoedd gweision Solomon: 392.

61. Daeth pobl eraill o drefi Tel-melach, Tel-harsha, Cerwb, Adon, ac Immer (ond doedd y rhain ddim yn gallu profi eu bod nhw a'u teuluoedd yn dod o Israel yn wreiddiol):

62. Teulu Delaia, teulu Tobeia a theulu Necoda: 652

63. Wedyn yr offeiriaid, sef teuluoedd Chafaia, Hacots, a Barsilai (dyn oedd wedi priodi un o ferched Barsilai o Gilead, ac wedi cymryd ei enw).

64. Roedd y rhain hefyd wedi chwilio am gofnod o'u teuluoedd yn y rhestrau achau, ond wedi methu ffeindio dim byd. Felly cawson nhw eu rhwystro rhag gwasanaethu fel offeiriaid.

65. Dwedodd y llywodraethwr nad oedden nhw i gael bwyta'r bwyd oedd wedi ei gysegru, nes byddai offeiriad yn codi oedd yn gallu penderfynu drwy ddefnyddio'r Wrim a'r Thwmim.

66. Cyfanswm y bobl aeth yn ôl oedd 42,360,

67. (heb gyfri'r 7,337 o weision a morynion oedd ganddyn nhw; ac roedd 245 o gantorion – dynion a merched – gyda nhw hefyd).

68-69. Roedd ganddyn nhw 736 o geffylau, 245 o fulod, 435 o gamelod a 6,720 o asynnod.

70. Dyma rai o benaethiaid y claniau yn cyfrannu tuag at y gwaith.Y llywodraethwr – 8 cilogram o aur, 50 powlen, a 530 o wisgoedd i'r offeiriaid.

71. Penaethiaid y claniau – 160 cilogram o aur a 1,300 cilogram o arian.

72. Yna cyfraniad gweddill y bobl oedd 160 cilogram o aur a 1,200 cilogram o arian, a 67 o wisgoedd i'r offeiriaid.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 7