Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13

Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 7 beibl.net 2015 (BNET)

Trefniadau diogelwch Jerwsalem

1. Roedd y wal wedi ei gorffen, drysau'r giatiau wedi eu gosod yn eu lle, a gofalwyr y giatiau, cantorion a Lefiaid wedi eu penodi.

2. A dyma fi'n apwyntio Chanani (perthynas i mi), a Chananeia, pennaeth y gaer, i fod yn gyfrifol am Jerwsalem. Roedd Chananeia'n ddyn y gallwn ei drystio, ac yn fwy duwiol na'r rhan fwya o bobl.

3. Dwedais wrthyn nhw, “Ddylai giatiau'r ddinas ddim bod ar agor pan mae'r haul yn boeth ganol dydd. Dylen nhw aros dan glo nes bod y gofalwyr yn ôl ar ddyletswydd. A rhaid i chi osod rhai o bobl Jerwsalem yn wylwyr ar y waliau, ac eraill wrth eu tai.”

Rhestr o'r bobl ddaeth yn ôl o Babilon

4. Roedd digon o le yn y ddinas, a dim llawer o bobl yn byw ynddi. Doedd bron ddim tai wedi eu hadeiladu ynddi bryd hynny.

5. A dyma Duw yn rhoi syniad i mi, i alw'r arweinwyr a'r swyddogion a'r bobl gyffredin at ei gilydd, a'u cofrestru nhw yn ôl eu teuluoedd.Dyma fi'n dod o hyd i restrau teuluol y rhai ddaeth yn ôl yn wreiddiol. A dyma beth oedd wedi ei gofnodi:

6. Dyma restr o bobl y dalaith ddaeth allan o Babilon. Cawson nhw eu cymryd yn gaeth yno gan Nebwchadnesar, brenin Babilon. Daeth pob un yn ôl i Jerwsalem ac i'r trefi eraill yn Jwda lle roedden nhw'n arfer byw.

7. Yr arweinwyr oedd Serwbabel, Ieshŵa, Nehemeia, Asareia, Raameia, Nachamani, Mordecai, Bilshan, Mispar, Bigfai, Nechwm a Baana.Dyma faint o bobl Israel ddaeth yn ôl:

8. Teulu Parosh: 2,172

9. Teulu Sheffateia: 372

10. Teulu Arach: 652

11. Teulu Pachath-Moab (o deuluoedd Ieshŵa a Joab): 2,818

12. Teulu Elam: 1,254

13. Teulu Sattw: 845

14. Teulu Saccai: 760

15. Teulu Binnŵi: 648

16. Teulu Bebai: 628

17. Teulu Asgad: 1,322

18. Teulu Adonicam: 667

19. Teulu Bigfai: 2,067

20. Teulu Adin: 655

21. Teulu Ater (sef disgynyddion Heseceia): 98

22. Teulu Chashŵm: 328

23. Teulu Betsai: 324

24. Teulu Chariff: 112

25. Teulu Gibeon: 95

26. Dynion Bethlehem a Netoffa: 188

27. Dynion Anathoth: 128

28. Dynion Beth-asmafeth: 42

29. Dynion Ciriath-iearim, Ceffira a Beëroth: 743

30. Dynion Rama a Geba: 621

31. Dynion Michmas: 122

32. Dynion Bethel ac Ai: 123

33. Pobl y Nebo arall: 52

34. Pobl yr Elam arall: 1,254

35. Pobl Charîm: 320

36. Pobl Jericho: 345

37. Pobl Lod, Hadid ac Ono: 721

38. Pobl Sena'a: 3,930

39. Yr offeiriaid:Teulu Idaïa (o linach Ieshŵa): 973

40. Teulu Immer: 1,052

41. Teulu Pashchwr: 1,247

42. Teulu Charîm: 1,017

43. Y Lefiaid:Teulu Ieshŵa (drwy Cadmiel o deulu Hodefa): 74

44. Y cantorion:Teulu Asaff: 148

45. Gofalwyr y giatiau:Teuluoedd Shalwm, Ater, Talmon, Accwf, Chatita a Shobai: 138

46. Gweision y deml:Teulu SichaTeulu ChaswffaTeulu Tabbaoth

47. Teulu CerosTeulu SïaTeulu Padon

48. Teulu LebanaTeulu HagabaTeulu Shalmai

49. Teulu ChananTeulu GidelTeulu Gachar

50. Teulu ReaiaTeulu ResinTeulu Necoda

51. Teulu GassamTeulu WssaTeulu Paseach

52. Teulu BesaiTeulu MewnimTeulu Neffwshesim

53. Teulu BacbwcTeulu ChacwffaTeulu Charchwr

54. Teulu BatslithTeulu MechidaTeulu Charsha

55. Teulu BarcosTeulu SiseraTeulu Temach

56. Teulu NetsïachTeulu Chatiffa.

57. Teuluoedd gweision Solomon:Teulu SotaiTeulu SofferethTeulu Perida

58. Teulu JalaTeulu DarconTeulu Gidel

59. Teulu SheffateiaTeulu ChattilTeulu Pochereth-hatsbaîmTeulu Amon.

60. Cyfanswm gweision y deml a theuluoedd gweision Solomon: 392.

61. Daeth pobl eraill o drefi Tel-melach, Tel-harsha, Cerwb, Adon, ac Immer (ond doedd y rhain ddim yn gallu profi eu bod nhw a'u teuluoedd yn dod o Israel yn wreiddiol):

62. Teulu Delaia, teulu Tobeia a theulu Necoda: 652

63. Wedyn yr offeiriaid, sef teuluoedd Chafaia, Hacots, a Barsilai (dyn oedd wedi priodi un o ferched Barsilai o Gilead, ac wedi cymryd ei enw).

64. Roedd y rhain hefyd wedi chwilio am gofnod o'u teuluoedd yn y rhestrau achau, ond wedi methu ffeindio dim byd. Felly cawson nhw eu rhwystro rhag gwasanaethu fel offeiriaid.

65. Dwedodd y llywodraethwr nad oedden nhw i gael bwyta'r bwyd oedd wedi ei gysegru, nes byddai offeiriad yn codi oedd yn gallu penderfynu drwy ddefnyddio'r Wrim a'r Thwmim.

66. Cyfanswm y bobl aeth yn ôl oedd 42,360,

67. (heb gyfri'r 7,337 o weision a morynion oedd ganddyn nhw; ac roedd 245 o gantorion – dynion a merched – gyda nhw hefyd).

68-69. Roedd ganddyn nhw 736 o geffylau, 245 o fulod, 435 o gamelod a 6,720 o asynnod.

70. Dyma rai o benaethiaid y claniau yn cyfrannu tuag at y gwaith.Y llywodraethwr – 8 cilogram o aur, 50 powlen, a 530 o wisgoedd i'r offeiriaid.

71. Penaethiaid y claniau – 160 cilogram o aur a 1,300 cilogram o arian.

72. Yna cyfraniad gweddill y bobl oedd 160 cilogram o aur a 1,200 cilogram o arian, a 67 o wisgoedd i'r offeiriaid.

73. Felly dyma'r offeiriaid, Lefiaid, cantorion, gofalwyr y giatiau a gweision y deml i gyd yn setlo i lawr yn eu trefi eu hunain. Ac aeth gweddill pobl Israel yn ôl i fyw i'w trefi hwythau hefyd.Pan ddaeth y seithfed mis, aeth pobl Israel o'u trefi