Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 2:13-20 beibl.net 2015 (BNET)

13. Dyma fi'n mynd allan drwy Giât y Dyffryn ganol nos, a troi i gyfeiriad Ffynnon y Ddraig a Giât y Sbwriel i edrych ar gyflwr y waliau oedd wedi eu chwalu a'r giatiau oedd wedi eu llosgi.

14. Es ymlaen at Giât y Ffynnon a Pwll y Brenin, ond wedyn doedd dim posib i'r anifail fynd ddim pellach.

15. Tra roedd hi'n dal yn dywyll dyma fi'n mynd i lawr i ddyffryn Cidron ac edrych ar gyflwr y waliau o'r fan honno. Wedyn trois yn ôl, a mynd yn ôl i'r ddinas drwy Giât y Dyffryn.

16. Doedd swyddogion y ddinas ddim yn gwybod ble roeddwn i wedi bod, na beth roeddwn i wedi bod yn ei wneud. Doeddwn i ddim wedi dweud wrth neb o'r Iddewon hyd yn hyn – yr offeiriaid, y bobl fawr na'r swyddogion, nac unrhyw un arall o'r gweithwyr.

17. Yna dyma fi'n dweud wrthyn nhw, “Dych chi'n gwybod mor anodd ydy pethau yma: mae Jerwsalem yn adfeilion a'i giatiau wedi eu llosgi. Dewch! Gadewch i ni ailadeiladu wal Jerwsalem, a dod â'r sefyllfa warthus yma i ben.”

18. Dwedais yr hanes wrthyn nhw, fel roedd Duw wedi bod gyda mi, a beth roedd y brenin wedi ei ddweud wrtho i. A dyma nhw'n ymateb, “Gadewch i ni ddechrau adeiladu ar unwaith!” A dyma nhw'n annog ei gilydd i fynd ati i wneud y gwaith pwysig yma.

19. Ond pan glywodd Sanbalat o Horon, Tobeia, y swyddog o Ammon, a Geshem yr Arab am ein cynlluniau, dyma nhw'n dechrau gwneud hwyl ar ein pennau a'n henllibio ni. “Beth dych chi'n wneud? Ydych chi'n meddwl gwrthryfela yn erbyn y brenin?”

20. A dyma fi'n ateb, “Gyda help Duw byddwn ni'n llwyddo. Ei weision e ydyn ni, a dŷn ni'n mynd i ddechrau ailadeiladu'r ddinas yma. Does yna ddim lle i chi yma, a dych chi erioed wedi bod â hawl i Jerwsalem.”

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 2