Doedd swyddogion y ddinas ddim yn gwybod ble roeddwn i wedi bod, na beth roeddwn i wedi bod yn ei wneud. Doeddwn i ddim wedi dweud wrth neb o'r Iddewon hyd yn hyn – yr offeiriaid, y bobl fawr na'r swyddogion, nac unrhyw un arall o'r gweithwyr.