Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 10:33-39 beibl.net 2015 (BNET)

33. Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i dalu am y torthau sydd i'w gosod ar fwrdd o flaen Duw, a'r gwahanol offrymau – yr offrwm dyddiol o rawn a'r offrwm i'w losgi, offrymau'r Sabothau, yr offrymau misol ar Ŵyl y lleuad newydd a'r gwyliau eraill, unrhyw offrymau eraill sydd wedi eu cysegru i Dduw, a'r offrymau puro o bechod sy'n gwneud pethau'n iawn rhwng pobl Israel a Duw. Hefyd unrhyw waith arall sydd i'w wneud i'r deml.

34. Dŷn ni (yr offeiriaid, Lefiaid a'r bobl gyffredin) wedi trefnu (drwy fwrw coelbren) pryd yn ystod y flwyddyn mae pob teulu i ddarparu coed i'w llosgi ar allor yr ARGLWYDD ein Duw yn y deml, fel mae'n dweud yn y Gyfraith.

35. A dŷn ni'n addo hefyd y byddwn ni, bob blwyddyn, yn dod â ffrwythau cyntaf y tir a ffrwyth cyntaf pob coeden i deml yr ARGLWYDD.

36. Byddwn ni hefyd yn dod â'n meibion hynaf, a'r anifeiliaid cyntaf i gael eu geni, i deml Dduw i'w cyflwyno i'r offeiriaid sy'n gwasanaethu yno, fel mae'r Gyfraith yn dweud.

37. Byddwn hefyd yn rhoi y gorau o'n toes, grawn, ffrwythau, sudd grawnwin ac olew olewydd, i'r offeiriaid yn stordai teml ein Duw. A hefyd un rhan o ddeg o'n cnydau i'w rhoi i'r Lefiaid (gan mai'r Lefiaid sy'n casglu'r ddegfed ran yn y trefi lle dŷn ni'n gweithio.)

38. Bydd offeiriad – un o ddisgynyddion Aaron – gyda'r Lefiaid pan mae'r gyfran yma'n cael ei gasglu. Yna bydd y Lefiaid yn mynd â degfed ran o'r hyn gasglwyd i stordai teml Dduw.

39. Bydd pobl Israel a'r Lefiaid yn mynd â'r cyfraniadau yma (o rawn, sudd grawnwin, ac olew olewydd) i'r stordai lle mae holl offer y deml yn cael ei gadw. Dyna hefyd lle mae'r offeiriaid, gofalwyr y giatiau a'r cantorion yn aros.Dŷn ni'n addo na fyddwn ni'n esgeuluso teml ein Duw.”

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 10