Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13

Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 10 beibl.net 2015 (BNET)

Offeiriaid

1. Dyma'r enwau oedd ar y copi: Nehemeia y llywodraethwr (mab Hachaleia), a Sedeceia,

2. Seraia, Asareia, Jeremeia,

3. Pashchwr, Amareia, Malcîa,

4. Chattwsh, Shefaneia, Malwch,

5. Charîm, Meremoth, Obadeia,

6. Daniel, Ginnethon, Barŵch,

7. Meshwlam, Abeia, Miamin,

8. Maaseia, Bilgai, a Shemaia. (Y rhain oedd yr offeiriaid.)

Lefiaid

9. Yna'r Lefiaid: Ieshŵa fab Asaneia, Binnŵi o glan Chenadad, a Cadmiel.

10. Hefyd: Shefaneia, Hodeia, Celita, Pelaia, Chanan,

11. Micha, Rechob, Chashafeia,

12. Saccwr, Sherefeia, Shefaneia,

13. Hodeia, Bani, a Beninw.

Arweinwyr y bobl

14. Yna penaethiaid y bobl: Parosh, Pachath-Moab, Elam, Sattw, Bani,

15. Bwnni, Asgad, Bebai,

16. Adoneia, Bigfai, Adin,

17. Ater, Chisceia, Asswr,

18. Hodeia, Chashŵm, Betsai,

19. Chariff, Anathoth, Nebai,

20. Magpiash, Meshwlam, Chesir,

21. Meshesafel, Sadoc, Iadwa,

22. Plateia, Chanan, Anaia,

23. Hoshea, Chananeia, Chashwf,

24. Halochesh, Pilcha, Shofec,

25. Rechwm, Chashafna, Maaseia,

26. Achïa, Chanan, Anan,

27. Malŵch, Charîm, a Baana.

Yr Ymrwymiad

28-29. Dyma weddill y bobl yn ymuno gyda'r arweinwyr i dyngu llw y bydden nhw'n ufudd i'r Gyfraith roddodd Duw i'w was Moses. (Roedd hyn yn cynnwys yr offeiriaid, Lefiaid, gofalwyr y giatiau, cantorion, gweision y deml, a pawb oedd wedi gwahanu eu hunain oddi wrth y bobl o wledydd eraill er mwyn bod yn ufudd i gyfraith Duw. Hefyd eu gwragedd, a'u meibion a'u merched, a pawb oedd yn ddigon hen i ddeall.) Os bydden nhw'n anufudd, roedden nhw'n cytuno y bydden nhw dan felltith. Ond roedden nhw'n addo y bydden nhw'n cadw gorchmynion yr ARGLWYDD ein Meistr, a'i reolau a'i ganllawiau.

30. “Wnawn ni ddim rhoi ein merched yn wragedd i'r bobl baganaidd o'n cwmpas, na chymryd eu merched nhw yn wragedd i'n meibion ni.

31. Os bydd y bobloedd eraill yn ceisio gwerthu grawn neu unrhyw nwyddau ar y Saboth (neu ddiwrnod cysegredig arall) wnawn ni ddim prynu ganddyn nhw.Bob saith mlynedd byddwn ni'n gadael ein caeau heb eu trin ac yn canslo pob dyled.

32. Dŷn ni hefyd yn derbyn fod rhaid talu treth flynyddol o un rhan o dair o sicl (sef bron 4 gram o arian) i deml Dduw.

33. Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i dalu am y torthau sydd i'w gosod ar fwrdd o flaen Duw, a'r gwahanol offrymau – yr offrwm dyddiol o rawn a'r offrwm i'w losgi, offrymau'r Sabothau, yr offrymau misol ar Ŵyl y lleuad newydd a'r gwyliau eraill, unrhyw offrymau eraill sydd wedi eu cysegru i Dduw, a'r offrymau puro o bechod sy'n gwneud pethau'n iawn rhwng pobl Israel a Duw. Hefyd unrhyw waith arall sydd i'w wneud i'r deml.

34. Dŷn ni (yr offeiriaid, Lefiaid a'r bobl gyffredin) wedi trefnu (drwy fwrw coelbren) pryd yn ystod y flwyddyn mae pob teulu i ddarparu coed i'w llosgi ar allor yr ARGLWYDD ein Duw yn y deml, fel mae'n dweud yn y Gyfraith.

35. A dŷn ni'n addo hefyd y byddwn ni, bob blwyddyn, yn dod â ffrwythau cyntaf y tir a ffrwyth cyntaf pob coeden i deml yr ARGLWYDD.

36. Byddwn ni hefyd yn dod â'n meibion hynaf, a'r anifeiliaid cyntaf i gael eu geni, i deml Dduw i'w cyflwyno i'r offeiriaid sy'n gwasanaethu yno, fel mae'r Gyfraith yn dweud.

37. Byddwn hefyd yn rhoi y gorau o'n toes, grawn, ffrwythau, sudd grawnwin ac olew olewydd, i'r offeiriaid yn stordai teml ein Duw. A hefyd un rhan o ddeg o'n cnydau i'w rhoi i'r Lefiaid (gan mai'r Lefiaid sy'n casglu'r ddegfed ran yn y trefi lle dŷn ni'n gweithio.)

38. Bydd offeiriad – un o ddisgynyddion Aaron – gyda'r Lefiaid pan mae'r gyfran yma'n cael ei gasglu. Yna bydd y Lefiaid yn mynd â degfed ran o'r hyn gasglwyd i stordai teml Dduw.

39. Bydd pobl Israel a'r Lefiaid yn mynd â'r cyfraniadau yma (o rawn, sudd grawnwin, ac olew olewydd) i'r stordai lle mae holl offer y deml yn cael ei gadw. Dyna hefyd lle mae'r offeiriaid, gofalwyr y giatiau a'r cantorion yn aros.Dŷn ni'n addo na fyddwn ni'n esgeuluso teml ein Duw.”