Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 10:28-29 beibl.net 2015 (BNET)

Dyma weddill y bobl yn ymuno gyda'r arweinwyr i dyngu llw y bydden nhw'n ufudd i'r Gyfraith roddodd Duw i'w was Moses. (Roedd hyn yn cynnwys yr offeiriaid, Lefiaid, gofalwyr y giatiau, cantorion, gweision y deml, a pawb oedd wedi gwahanu eu hunain oddi wrth y bobl o wledydd eraill er mwyn bod yn ufudd i gyfraith Duw. Hefyd eu gwragedd, a'u meibion a'u merched, a pawb oedd yn ddigon hen i ddeall.) Os bydden nhw'n anufudd, roedden nhw'n cytuno y bydden nhw dan felltith. Ond roedden nhw'n addo y bydden nhw'n cadw gorchmynion yr ARGLWYDD ein Meistr, a'i reolau a'i ganllawiau.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 10

Gweld Nehemeia 10:28-29 mewn cyd-destun