Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4

Hen Destament

Testament Newydd

Malachi 3 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Edrychwch, dw i'n anfon fy negesydd,a bydd e'n paratoi'r ffordd ar fy nghyfer i.Ac yn sydyn, bydd y Meistr dych chi'n ei geisioyn dod i'w deml.Ydy, mae angel yr ymrwymiad,dych chi'n honni ei hoffi, ar ei ffordd!”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.

2. Ond pa obaith sydd ar y diwrnod pan ddaw?Pwy all oroesi pan ddaw i'r golwg?Achos mae e fel tân sy'n toddi metelneu sebon y golchwr.

3. Bydd yn eistedd fel un sy'n coethi arian;ac yn puro disgynyddion Lefi –bydd yn eu gloywi fel aur ac arian,er mwyn iddyn nhw gyflwyno offrymau iawn i'r ARGLWYDD.

4. Bryd hynny bydd offrymau Jwda a Jerwsalemyn plesio'r ARGLWYDDfel roedden nhw ers talwm,yn yr hen ddyddiau.

5. “Dw i'n mynd i ddod atoch chi i farnu;dw i'n barod i dystio yn erbynpawb sydd ddim yn fy mharchu –y rhai sy'n dewino ac yn godinebu,sy'n dweud celwydd ar lw,sy'n gormesu gweithwyr (trwy atal eu cyflog),yn cam-drin gweddwon a phlant amddifad,ac yn gwrthod eu hawliau i fewnfudwyr,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.

6. “Ie, fi ydy'r ARGLWYDD, a dw i ddim wedi newid,a dych chi ddim wedi stopio bod yn blant i'ch tad Jacob!”

Rhaid troi yn ôl at Dduw

7. “Ers canrifoedd dych chi wedi bod yn troi cefn ar fy neddfau,a ddim yn eu cadw.Trowch yn ôl ata i, a bydda i'n troi atoch chi”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.“Pam bod angen i ni droi'n ôl?” meddech chi.

8. “Ydy'n iawn i ddwyn oddi ar Dduw?Ac eto dych chi'n dwyn oddi arna i.”“Sut ydyn ni'n dwyn oddi arnat ti?” meddech chi.“Trwy gadw'r degymau a'r offrymau.

9. Dych chi'n diodde melltith,am eich bod chi'n dwyn oddi arna i– ie, y cwbl lot ohonoch chi!

10. Dewch â'r degwm llawn i'r stordy,fel bod yna fwyd yn fy nheml.Ie, rhowch fi ar brawf,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—“a chewch weld y bydda i'n agor llifddorau'r nefoeddac yn tywallt bendith arnoch chi;fyddwch chi'n brin o ddim byd!

11. Bydda i'n cael gwared â'r locustiaid,rhag iddyn nhw ddinistrio cnydau'r tir;fydd y gwinwydd yn y winllan ddim yn methu,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.

12. “Bydd y gwledydd eraill i gyd yn dweudeich bod wedi eich bendithio,am eich bod yn byw mewn gwlad mor hyfryd,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.

Bydd Duw yn bendithio'r rhai ffyddlon

13. “Dych chi wedi dweud pethau ofnadwy yn fy erbyn i,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.“Beth ydyn ni wedi ei ddweud yn dy erbyn di?” meddech chi.

14. “Chi'n dweud, ‘Does dim pwynt gwasanaethu Duw.Beth ydyn ni wedi ei ennill o wrando arnoa mynd o gwmpas yn edrych yn dristo flaen yr ARGLWYDD holl-bwerus?

15. Mae'r bobl sy'n haerllug yn hapus! –maen nhw'n gwneud drwg ac yn llwyddo;maen nhw'n herio Duw ac yn dianc!’”

16. Ond yna, dyma'r rhai oedd wir yn parchu'r ARGLWYDD yn trafod gyda'i gilydd. Clywodd yr ARGLWYDD nhw, a chymryd sylw o'r peth, a gorchymyn i gofnod gael ei ysgrifennu yn y sgrôl sy'n rhestru'r rhai sy'n parchu'r ARGLWYDD ac yn meddwl yn uchel ohono.

17. “Nhw fydd fy mhobl i,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—“fy nhrysor sbesial ar y diwrnod sy'n dod.Bydda i'n gofalu amdanyn nhwfel mae tad yn gofalu am fab sy'n gweithio iddo.

18. Byddwch chi'n gweld y gwahaniaethrhwng yr un sydd wedi byw'n iawn a'r rhai drwg,rhwng y sawl sy'n gwasanaethu Duwa'r rhai sydd ddim.