Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4

Hen Destament

Testament Newydd

Malachi 4 beibl.net 2015 (BNET)

1. Ydy, mae'r diwrnod yn dod;mae fel ffwrnais yn llosgi.Bydd yr holl rai haerllug sy'n gwneud drwgyn cael eu llosgi fel bonion gwellt,ar y diwrnod sy'n dod,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.“Byddan nhw'n llosgi'n ulwnes bydd dim gwreiddyn na changen ar ôl.

2. Ond bydd haul cyfiawnder yn gwawrioarnoch chi sy'n fy mharchu i,a iachâd yn ei belydrau.Byddwch yn mynd allan,yn neidio fel llo wedi ei ollwng yn rhydd.

3. Byddwch yn sathru'r rhai drwg,a byddan nhw fel lludw dan eich traedar y diwrnod y bydda i'n gweithredu,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.

Rhybudd ac Addewid

4. Cofiwch ddysgeidiaeth Moses, fy ngwas;y rheolau a'r canllawiau rois iddo ar Fynydd Sinaiar gyfer Israel gyfan.

5. Edrychwch, dw i'n anfon y proffwyd Elias atoch chicyn i ddiwrnod mawr a dychrynllyd yr ARGLWYDD ddod.

6. Bydd yn annog rhieni a phlant i droi'n ôl ata i,rhag i mi ddod a taro'r wlad, a'i dinistrio'n llwyr.