Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 8:21-30 beibl.net 2015 (BNET)

21. Yna ar ôl golchi'r coluddion a'r coesau ôl gyda dŵr, dyma Moses yn llosgi'r hwrdd cyfan ar yr allor. Offrwm i'w losgi oedd e, ac yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. Gwnaeth Moses bopeth fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

22. Wedyn dyma Moses yn cymryd yr ail hwrdd, sef hwrdd yr ordeinio, a dyma Aaron a'i feibion yn gosod eu dwylo ar ben yr anifail.

23. Ar ôl i'r hwrdd gael ei ladd, dyma Moses yn rhoi peth o'r gwaed ar glust dde Aaron, bawd ei law dde, a bawd ei droed dde.

24. Yna dyma fe'n gwneud yr un peth i feibion Aaron, cyn sblasio gweddill y gwaed o gwmpas yr allor.

25. Yna dyma fe'n cymryd y brasder – sef brasder y gynffon, y brasder o gwmpas y perfeddion, rhan isaf yr iau, a'r ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw – a darn uchaf y goes ôl dde.

26. Yna cymerodd Moses o'r fasged beth o'r bara wedi ei wneud gyda'r blawd gwenith gorau – un dorth o fara heb furum ynddo, un dorth wedi ei socian mewn olew olewydd, ac un o'r bisgedi.

27. Yna eu gosod nhw ar ben y brasder a darn uchaf y goes ôl dde, a rhoi'r cwbl yn nwylo Aaron a'i feibion. A dyma nhw'n ei godi'n uchel a'i gyflwyno'n offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD.

28. Wedyn dyma Moses yn cymryd y cwbl yn ôl ac yn ei losgi ar yr allor gyda'r offrwm sydd i'w losgi'n llwyr. Roedd hwn yn offrwm ordeinio, ac yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.

29. Yna dyma Moses yn codi'r frest yn uchel a'i chyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Roedd Moses yn cael cadw'r rhan yma o hwrdd yr ordeinio, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.

30. Yna'n olaf dyma Moses yn cymryd peth o'r olew eneinio a peth o'r gwaed oedd ar yr allor a'i daenellu ar Aaron a'i feibion a'u gwisgoedd. Dyna sut wnaeth e gysegru Aaron a'i feibion a'u gwisgoedd i wasanaeth yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 8