Yna ar ôl golchi'r coluddion a'r coesau ôl gyda dŵr, dyma Moses yn llosgi'r hwrdd cyfan ar yr allor. Offrwm i'w losgi oedd e, ac yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. Gwnaeth Moses bopeth fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.