Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 8:12-24 beibl.net 2015 (BNET)

12. Ac wedyn dyma fe'n tywallt peth o'r olew ar ben Aaron, i'w gysegru i waith yr ARGLWYDD.

13. Yna dyma Moses yn gwisgo meibion Aaron yn eu crysau, rhwymo sash am eu canol, a rhoi cap ar eu pennau. Gwnaeth Moses bopeth fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

14. Wedyn dyma Moses yn cymryd y tarw ifanc oedd i gael ei offrymu i'w glanhau o'u pechodau, a dyma Aaron a'i feibion yn gosod eu dwylo ar ben yr anifail.

15. Ar ôl i'r tarw gael ei ladd dyma Moses yn cymryd peth o'r gwaed a'i roi gyda'i fys ar gyrn yr allor i'w phuro hi. Wedyn dyma fe'n tywallt gweddill y gwaed wrth droed yr allor. Dyma sut wnaeth e gysegru'r allor, a'i gwneud hi'n iawn i aberthu arni.

16. Yna cymerodd y brasder oedd o gwmpas perfeddion y tarw, rhan isaf yr iau, a'r ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw, a'i llosgi nhw ar yr allor.

17. Wedyn dyma fe'n cymryd gweddill y tarw, ei groen, y cig a'r coluddion, a'i losgi tu allan i'r gwersyll, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.

18. Nesaf, dyma Moses yn cymryd yr hwrdd oedd i'w gyflwyno'n offrwm i'w losgi, a dyma Aaron a'i feibion yn gosod eu dwylo ar ben yr anifail.

19. Ar ôl i'r hwrdd gael ei ladd, dyma Moses yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor.

20. Roedd yr hwrdd wedyn yn cael ei dorri'n ddarnau, cyn i Moses losgi'r pen a'r darnau a'i frasder.

21. Yna ar ôl golchi'r coluddion a'r coesau ôl gyda dŵr, dyma Moses yn llosgi'r hwrdd cyfan ar yr allor. Offrwm i'w losgi oedd e, ac yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. Gwnaeth Moses bopeth fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

22. Wedyn dyma Moses yn cymryd yr ail hwrdd, sef hwrdd yr ordeinio, a dyma Aaron a'i feibion yn gosod eu dwylo ar ben yr anifail.

23. Ar ôl i'r hwrdd gael ei ladd, dyma Moses yn rhoi peth o'r gwaed ar glust dde Aaron, bawd ei law dde, a bawd ei droed dde.

24. Yna dyma fe'n gwneud yr un peth i feibion Aaron, cyn sblasio gweddill y gwaed o gwmpas yr allor.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 8