Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 6:3-20 beibl.net 2015 (BNET)

3. Neu os ydy e wedi dod o hyd i rywbeth ac yn honni nad ydy'r peth hwnnw ganddo. Pan mae person yn dweud celwydd am unrhyw un o'r pethau yma, mae e'n pechu.

4. Os ydy e wedi ei gael yn euog o wneud unrhyw un o'r pethau yma, rhaid iddo dalu'n ôl beth bynnag oedd e wedi ei ddwyn.

5. Rhaid iddo dalu'r swm yn ôl yn llawn, ac ychwanegu 20%. Mae i'w dalu i'r person gafodd ei dwyllo ganddo pan mae wedi cael ei ddedfrydu'n euog o'r drosedd.

6. Wedyn rhaid iddo fynd ag offrwm i'r ARGLWYDD i gyfaddef ei fai. Yr offrwm fydd hwrdd sydd â dim byd o'i le arno; neu gall dalu beth ydy gwerth yr hwrdd gyda arian swyddogol y cysegr.

7. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am beth bynnag wnaeth e o'i le.”

8. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

9. “Dywed wrth Aaron a'i ddisgynyddion mai dyma'r drefn gyda'r offrwm sydd i'w losgi: Mae'r offrwm i aros ar yr allor drwy'r nos tan y bore wedyn. Rhaid cadw'r tân ar yr allor yn llosgi.

10. Mae'r offeiriad i wisgo ei wisg o liain, a'i ddillad isaf lliain. Wedyn mae i gasglu'r lludw sydd ar ôl wedi i'r offrwm gael ei losgi, a'i gosod nhw'n domen wrth ymyl yr allor.

11. Wedyn rhaid iddo newid ei ddillad cyn mynd â'r lludw allan i le tu allan i'r gwersyll sydd wedi cael ei gysegru i'r pwrpas hwnnw.

12. Rhaid cadw'r tân ar yr allor yn llosgi. Dydy e byth i fod i ddiffodd. Rhaid i offeiriad roi coed arno bob bore. Wedyn mae'n gosod yr offrwm sydd i'w losgi'n llwyr arno, ac yn llosgi brasder yr offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.

13. Rhaid cadw'r tân ar yr allor yn llosgi drwy'r amser. Dydy e byth i fod i ddiffodd.

14. “Dyma'r drefn gyda'r offrwm o rawn: Rhaid i'r offeiriaid, disgynyddion Aaron, ei gyflwyno i'r ARGLWYDD o flaen yr allor.

15. Maen nhw i gymryd llond dwrn o flawd gwenith ac olew yr offrwm, a'r thus i gyd, a'i losgi fel ernes ar yr allor – yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD ac yn ei atgoffa o'i ymrwymiad.

16. Bydd yr offeiriaid, Aaron a'i ddisgynyddion, yn bwyta'r gweddill ohono. Rhaid ei fwyta heb furum mewn lle sydd wedi ei gysegru, sef iard y Tabernacl.

17. Mae'r bara yma yn gysegredig iawn, fel yr offrwm i lanhau o bechod a'r offrwm i gyfaddef bai. Mae'r bara i gael ei bobi heb furum. Dw i'n ei roi i'r offeiriaid. Mae'n rhan o'r hyn sy'n cael ei gyflwyno i mi ar yr allor.

18. Dim ond y dynion sy'n ddisgynyddion i Aaron sy'n cael ei fwyta. Dyma eu siâr nhw bob amser. Rhaid i unrhyw un sy'n cyffwrdd y bara fod wedi ei gysegru.”

19. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

20. “Dyma'r offrwm mae offeiriad i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD pan mae'n cael ei ordeinio: mae'r un fath a'r offrwm sy'n cael ei wneud fore a nos bob dydd, sef hanner cilogram o'r blawd gwenith gorau

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 6