Rhaid cadw'r tân ar yr allor yn llosgi. Dydy e byth i fod i ddiffodd. Rhaid i offeiriad roi coed arno bob bore. Wedyn mae'n gosod yr offrwm sydd i'w losgi'n llwyr arno, ac yn llosgi brasder yr offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.