Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 6:1-15 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

2. “Pan mae rhywun yn troseddu yn fy erbyn i yr ARGLWYDD trwy dwyllo person arall, dyma sydd raid ei wneud:“Os ydy rhywun yn gwrthod rhoi rhywbeth sydd yn ei ofal yn ôl. Neu os ydy e'n gwrthod talu benthyciad yn ôl. Neu os ydy e wedi dwyn rhywbeth. Neu os ydy e wedi gwneud elw ar draul rhywun arall.

3. Neu os ydy e wedi dod o hyd i rywbeth ac yn honni nad ydy'r peth hwnnw ganddo. Pan mae person yn dweud celwydd am unrhyw un o'r pethau yma, mae e'n pechu.

4. Os ydy e wedi ei gael yn euog o wneud unrhyw un o'r pethau yma, rhaid iddo dalu'n ôl beth bynnag oedd e wedi ei ddwyn.

5. Rhaid iddo dalu'r swm yn ôl yn llawn, ac ychwanegu 20%. Mae i'w dalu i'r person gafodd ei dwyllo ganddo pan mae wedi cael ei ddedfrydu'n euog o'r drosedd.

6. Wedyn rhaid iddo fynd ag offrwm i'r ARGLWYDD i gyfaddef ei fai. Yr offrwm fydd hwrdd sydd â dim byd o'i le arno; neu gall dalu beth ydy gwerth yr hwrdd gyda arian swyddogol y cysegr.

7. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am beth bynnag wnaeth e o'i le.”

8. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

9. “Dywed wrth Aaron a'i ddisgynyddion mai dyma'r drefn gyda'r offrwm sydd i'w losgi: Mae'r offrwm i aros ar yr allor drwy'r nos tan y bore wedyn. Rhaid cadw'r tân ar yr allor yn llosgi.

10. Mae'r offeiriad i wisgo ei wisg o liain, a'i ddillad isaf lliain. Wedyn mae i gasglu'r lludw sydd ar ôl wedi i'r offrwm gael ei losgi, a'i gosod nhw'n domen wrth ymyl yr allor.

11. Wedyn rhaid iddo newid ei ddillad cyn mynd â'r lludw allan i le tu allan i'r gwersyll sydd wedi cael ei gysegru i'r pwrpas hwnnw.

12. Rhaid cadw'r tân ar yr allor yn llosgi. Dydy e byth i fod i ddiffodd. Rhaid i offeiriad roi coed arno bob bore. Wedyn mae'n gosod yr offrwm sydd i'w losgi'n llwyr arno, ac yn llosgi brasder yr offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.

13. Rhaid cadw'r tân ar yr allor yn llosgi drwy'r amser. Dydy e byth i fod i ddiffodd.

14. “Dyma'r drefn gyda'r offrwm o rawn: Rhaid i'r offeiriaid, disgynyddion Aaron, ei gyflwyno i'r ARGLWYDD o flaen yr allor.

15. Maen nhw i gymryd llond dwrn o flawd gwenith ac olew yr offrwm, a'r thus i gyd, a'i losgi fel ernes ar yr allor – yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD ac yn ei atgoffa o'i ymrwymiad.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 6