“Pan mae rhywun yn pechu'n ddamweiniol ac yn torri'r rheolau am y pethau sanctaidd sydd i'w cyflwyno i'r ARGLWYDD rhaid iddo ddod ag offrwm i gyfaddef bai. Yr offrwm fydd hwrdd sydd â dim byd o'i le arno, neu gall dalu'r pris llawn am hwrdd gydag arian swyddogol y cysegr.