Wedyn bydd yr ail aderyn yn cael ei gyflwyno yn offrwm i'w losgi'n llwyr. Bydd yr offeiriad yn dilyn y ddefod arferol wrth ei gyflwyno. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person sy'n cyflwyno'r offrwm â Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod.