Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 26:29-43 beibl.net 2015 (BNET)

29. Byddwch chi'n dioddef newyn mor ofnadwy nes byddwch chi'n bwyta eich plant eich hunain – eich bechgyn a'ch merched.

30. Bydda i'n dinistrio eich allorau paganaidd chi, a'ch lleoedd cysegredig, ac yn taflu eich cyrff marw chi ar ‛gyrff‛ eich eilun-dduwiau chi. Bydda i'n eich ffieiddio chi.

31. Bydd eich trefi'n adfeilion a'ch temlau chi'n cael eu dinistrio. Fydd eich offrymau chi ddim yn fy mhlesio i o gwbl.

32. Bydd eich tir chi yn y fath gyflwr, bydd y gelynion fydd yn dod i fyw yno wedi dychryn.

33. Bydd y rhyfel yn dinistrio'r wlad a'r trefi, a byddwch chi'n cael eich gyrru ar chwâl drwy'r gwledydd.

34. Tra byddwch chi'n gaethion yng ngwlad eich gelynion, bydd y tir yn cael gorffwys.

35. Bydd e'n cael mwynhau gorffwys y Saboth oedd i fod i'w gael pan oeddech chi'n byw yno.

36. Bydd y rhai ohonoch chi fydd yn dal yn fyw wedi anobeithio'n llwyr yng ngwlad y gelyn. Bydd sŵn deilen yn ysgwyd yn ddigon i'w dychryn nhw. Byddan nhw'n dianc oddi wrth y cleddyf, ac yn syrthio er bod neb yn eu herlid nhw.

37. Byddwch chi'n baglu dros eich gilydd wrth ddianc, er bod neb ar eich holau chi. Fydd neb ohonoch chi'n ddigon cryf i sefyll yn erbyn y gelyn.

38. Bydd llawer ohonoch chi yn marw ac yn cael eich claddu mewn gwledydd tramor.

39. A bydd y rhai sy'n dal yn fyw yn gwywo yng ngwlad y gelyn o achos eu drygioni, ar holl bethau drwg wnaeth eu hynafiaid.

40. “Ond os gwnân nhw gyfaddef eu bod nhw a'u hynafiaid wedi bod ar fai; eu bod nhw wedi fy mradychu, bod yn anffyddlon a tynnu'n groes i mi.

41. (Dyna pam wnes i droi yn eu herbyn nhw a mynd â nhw i wlad eu gelynion). Os gwnân nhw stopio bod mor ystyfnig a derbyn eu bod nhw wedi bod ar fai,

42. bydda i'n cofio'r ymrwymiad wnes i gyda Jacob, a gydag Isaac, a gydag Abraham, a beth wnes i addo am y tir rois i iddyn nhw.

43. Byddan nhw wedi gadael y tir er mwyn iddo fwynhau gorffwys y Sabothau oedd i fod i'w cael. Bydd y tir yn gorwedd yn anial hebddyn nhw. Bydd rhaid iddyn nhw dderbyn eu bod nhw wedi bod ar fai yn gwrthod gwrando arna i na chadw fy rheolau.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 26