Byddan nhw wedi gadael y tir er mwyn iddo fwynhau gorffwys y Sabothau oedd i fod i'w cael. Bydd y tir yn gorwedd yn anial hebddyn nhw. Bydd rhaid iddyn nhw dderbyn eu bod nhw wedi bod ar fai yn gwrthod gwrando arna i na chadw fy rheolau.