Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 17:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

2. “Dywed wrth Aaron a'i ddisgynyddion, ac wrth bobl Israel i gyd mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei orchymyn:

3. Os ydy unrhyw un o bobl Israel yn aberthu bustach, dafad, neu afr, yn y gwersyll neu'r tu allan i'r gwersyll,

4. yn lle mynd â'r anifail at y fynedfa i'r Tabernacl i'w gyflwyno'n offrwm i'r ARGLWYDD, bydd y person hwnnw yn euog o dywallt gwaed. Mae e wedi tywallt gwaed, a bydd e'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.

5. Pwrpas y rheol yma ydy gwneud i bobl Israel ddod a'u haberthau i'r ARGLWYDD, at yr offeiriad o flaen y fynedfa i'r Tabernacl, yn lle eu haberthu allan yn y wlad. Maen nhw i'w cyflwyno iddo yn offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.

6. Bydd yr offeiriad yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor wrth y fynedfa i'r Tabernacl, ac yn llosgi'r brasder fel offrwm sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.

7. Dŷn nhw ddim i aberthu i'r gafr-ddemoniaid o hyn ymlaen. Maen nhw'n ymddwyn fel puteiniaid wrth wneud y fath beth. Fydd y rheol yma byth yn newid.

8. “Atgoffa nhw: Does neb o bobl Israel nag unrhyw un arall sy'n byw gyda nhw i gyflwyno offrwm i'w losgi neu offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD,

9. oni bai ei fod yn dod â'r offrwm hwnnw at y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. Bydd unrhyw un sy'n gwneud yn wahanol yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.

10. “Bydda i yn troi yn erbyn unrhyw un sy'n bwyta cig sydd â'r gwaed yn dal ynddo – un o bobl Israel neu unrhyw un arall sy'n byw gyda nhw. Bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 17