Hen Destament

Testament Newydd

Josua 7:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Ond roedd pobl Israel wedi bod yn anufudd, a chymryd rhai pethau oedd i fod i gael eu cadw i'r ARGLWYDD. Roedd dyn o'r enw Achan wedi cymryd rhai o'r pethau oedd piau'r ARGLWYDD. (Roedd Achan yn fab i Carmi, ac yn ŵyr i Sabdi fab Serach, o lwyth Jwda.) Ac roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda phobl Israel.

2. Dyma Josua'n anfon dynion o Jericho i ysbïo ar Ai (sydd i'r dwyrain o Bethel, wrth ymyl Beth-afen).

3. Pan ddaeth y dynion yn ôl dyma nhw'n dweud wrth Josua, “Paid anfon pawb i ymladd yn erbyn Ai. Bydd rhyw ddwy neu dair mil o ddynion yn hen ddigon. Does dim pwynt trafferthu i anfon y fyddin i gyd. Tref fach ydy Ai.”

4. Felly dyma ryw dair mil o ddynion arfog yn mynd, ond dynion Ai wnaeth ennill y frwydr, ac roedd rhaid i ddynion Israel ffoi.

5. Aeth dynion Ai ar eu holau yr holl ffordd i lawr o giatiau'r dref i'r chwareli. Cafodd tua tri deg chwech ohonyn nhw eu lladd ar y llethrau. Gwnaeth hyn i bobl Israel golli pob hyder.

6. Dyma Josua yn rhwygo ei ddillad, a gorwedd ar ei wyneb ar lawr o flaen Arch yr ARGLWYDD nes iddi nosi. Roedd arweinwyr Israel yno gydag e, yn taflu pridd ar eu pennau.

7. Gweddïodd Josua, “O na! Feistr, ARGLWYDD! Pam wyt ti wedi dod â'r bobl yma ar draws yr Afon Iorddonen? Ai er mwyn i'r Amoriaid ein dinistrio ni? Pam wnaethon ni ddim bodloni aros yr ochr arall!

8. Meistr, beth alla i ei ddweud, ar ôl i Israel orfod ffoi o flaen eu gelynion?

9. Pan fydd y Canaaneaid a pawb arall sy'n byw yn y wlad yn clywed beth sydd wedi digwydd, byddan nhw'n troi yn ein herbyn ni a'n dileu ni oddi ar wyneb y ddaear. Be wnei di wedyn i gadw dy enw da?”

10. A dyma'r ARGLWYDD yn ateb Josua, “Cod ar dy draed! Pam wyt ti'n gorwedd ar dy wyneb ar lawr fel yna?

Darllenwch bennod gyflawn Josua 7