Ond roedd pobl Israel wedi bod yn anufudd, a chymryd rhai pethau oedd i fod i gael eu cadw i'r ARGLWYDD. Roedd dyn o'r enw Achan wedi cymryd rhai o'r pethau oedd piau'r ARGLWYDD. (Roedd Achan yn fab i Carmi, ac yn ŵyr i Sabdi fab Serach, o lwyth Jwda.) Ac roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda phobl Israel.