15. Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Catta, Nahalal, Shimron, Idala, a Bethlehem. Roedd ganddyn nhw un deg dwy o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas.
16. Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Sabulon, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.
17. Teuluoedd llwyth Issachar gafodd y bedwaredd ran.
18. Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Jesreel, Ceswloth, Shwnem,
19. Chaffaraïm, Shion, Anacharath,
20. Rabbith, Cishon, Ebes,
21. Remeth, En-gannïm, En-hada a Beth-patsets.
22. Roedd eu ffin yn cyffwrdd Mynydd Tabor, Shachatsima a Beth-shemesh, ac yn gorffen wrth yr Afon Iorddonen. Un deg chwech o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas.
23. Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Issachar, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.
24. Teuluoedd llwyth Asher gafodd y bumed ran.
25. Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Helcath, Chali, Beten, Achsaff,
26. Alammelech, Amad, a Mishal.Roedd eu ffin nhw yn mynd o Carmel yn y gorllewin i Shichor-libnath.
27. Wedyn roedd yn troi i'r dwyrain i gyfeiriad Beth-dagon, at ffin llwyth Sabulon a Dyffryn Ifftachél i'r gogledd, yna i Beth-emec a Neiel, ac yna ymlaen i Cabwl yn y gogledd.
28. Yna i Ebron, Rechob, Hammon, a Cana, yr holl ffordd i Sidon Fawr.
29-30. Wedyn roedd yn troi i gyfeiriad Rama a tref gaerog Tyrus, cyn troi i Chosa a mynd at y môr. Roedd ganddyn nhw ddau ddeg dwy o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas, gan gynnwys Mahalab, Achsib, Acco, Affec, a Rechob.