Hen Destament

Testament Newydd

Josua 19:10-27 beibl.net 2015 (BNET)

10. Teuluoedd llwyth Sabulon gafodd y drydedd ran.Roedd ffin eu tiriogaeth nhw yn ymestyn yr holl ffordd i Sarid yn y de-ddwyrain.

11. Roedd yn mynd i gyfeiriad y gorllewin i Marala, heibio Dabbesheth ac at y ceunant wrth Jocneam.

12. O Sarid roedd yn troi i gyfeiriad y dwyrain at y ffin gyda Cisloth-tabor, yna ymlaen i Daberath, ac i fyny i Jaffia.

13. Wedyn roedd yn croesi drosodd i Gath-heffer ac Eth-catsin ac ymlaen i Rimmon cyn troi i gyfeiriad Nea.

14. Wedyn roedd yn mynd rownd i'r gogledd i Channathon ac yn gorffen yn Nyffryn Ifftachél.

15. Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Catta, Nahalal, Shimron, Idala, a Bethlehem. Roedd ganddyn nhw un deg dwy o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas.

16. Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Sabulon, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.

17. Teuluoedd llwyth Issachar gafodd y bedwaredd ran.

18. Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Jesreel, Ceswloth, Shwnem,

19. Chaffaraïm, Shion, Anacharath,

20. Rabbith, Cishon, Ebes,

21. Remeth, En-gannïm, En-hada a Beth-patsets.

22. Roedd eu ffin yn cyffwrdd Mynydd Tabor, Shachatsima a Beth-shemesh, ac yn gorffen wrth yr Afon Iorddonen. Un deg chwech o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas.

23. Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Issachar, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.

24. Teuluoedd llwyth Asher gafodd y bumed ran.

25. Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Helcath, Chali, Beten, Achsaff,

26. Alammelech, Amad, a Mishal.Roedd eu ffin nhw yn mynd o Carmel yn y gorllewin i Shichor-libnath.

27. Wedyn roedd yn troi i'r dwyrain i gyfeiriad Beth-dagon, at ffin llwyth Sabulon a Dyffryn Ifftachél i'r gogledd, yna i Beth-emec a Neiel, ac yna ymlaen i Cabwl yn y gogledd.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 19