Hen Destament

Testament Newydd

Josua 15:14-30 beibl.net 2015 (BNET)

14. Dyma Caleb yn gyrru allan dri cawr oedd yn ddisgynyddion i Anac, sef Sheshai, Achiman a Talmai.

15. Yna dyma fe'n ymosod ar y bobl oedd yn byw yn Debir. (Ciriath-seffer oedd yr hen enw ar Debir.)

16. Roedd Caleb wedi dweud, “Bydd pwy bynnag sy'n ymosod ar dref Ciriath-seffer ac yn ei choncro yn cael priodi fy merch Achsa.”

17. Othniel, mab Cenas (brawd Caleb) wnaeth goncro'r dref, a dyma Caleb yn rhoi ei ferch, Achsa, yn wraig iddo.

18. Pan briododd hi Othniel, dyma hi'n ei berswadio i adael iddi ofyn i'w thad am fwy o dir. Wrth iddi ddod i lawr oddi ar gefn ei hasyn, dyma ei thad Caleb yn gofyn iddi, “Beth sy'n bod?”

19. A dyma hi'n ateb, “Dw i eisiau gofyn am rodd arall gen ti. Rwyt ti wedi rhoi tir i mi yn y Negef, ond wnei di roi ffynhonnau dŵr i mi hefyd?” A dyma Caleb yn rhoi'r ffynhonnau uchaf a'r ffynhonnau isaf iddi.

20. Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Jwda:

21. Y trefi i lawr yn y de ar y ffin gydag Edom: Cabseël, Eder, Iagwr,

22. Cina, Dimona, Adada,

23. Cedesh, Chatsor, Ithnan,

24. Siff, Telem, Bealoth,

25. Chatsor-chadatta, Cerioth-chetsron (sef Chatsor),

26. Amam, Shema, Molada,

27. Chatsar-gada, Cheshmon, Beth-pelet,

28. Chatsar-shwal, Beersheba, Bisiothia,

29. Baäla, Ïim, Etsem,

30. Eltolad, Cesil, Horma,

Darllenwch bennod gyflawn Josua 15