Hen Destament

Testament Newydd

Josua 10:13-30 beibl.net 2015 (BNET)

13. Felly dyma'r haul a'r lleuadyn aros yn eu hunfannes i Israel ddial ar eu gelynion.(Mae'r gerdd yma i'w chael yn Sgrôl Iashar.) Roedd yr haul wedi sefyll yn ei unfan drwy'r dydd, heb fachlud.

14. Does dim diwrnod tebyg erioed wedi bod cyn hynny na wedyn! Diwrnod pan wnaeth yr ARGLWYDD wrando ar orchymyn dyn. Oedd, roedd yr ARGLWYDD yn ymladd dros bobl Israel!

15. A dyma Josua a byddin Israel yn mynd yn ôl i'r gwersyll yn Gilgal.

16. Roedd pum brenin yr Amoriaid wedi dianc a mynd i guddio mewn ogof yn Macceda.

17. Pan glywodd Josua ble roedden nhw,

18. dyma fe'n gorchymyn, “Rholiwch gerrig mawr i gau ceg yr ogof, a gosod dynion i'w gwarchod.

19. Wedyn peidiwch oedi – ewch ar ôl y gelynion. Peidiwch gadael iddyn nhw ddianc yn ôl i'w trefi. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd i roi buddugoliaeth i chi.”

20. Roedd Josua a byddin Israel wedi eu lladd nhw i gyd bron, er fod rhai wedi llwyddo i ddianc i'r caerau amddiffynnol.

21. Yna dyma byddin Israel i gyd yn mynd yn ôl at Josua i'r gwersyll yn Macceda. Doedd neb yn mentro dweud dim byd yn erbyn pobl Israel ar ôl hyn.

22. A dyma Josua yn gorchymyn, “Agorwch geg yr ogof, a dod â'r pum brenin allan ata i.”

23. A dyma nhw'n gwneud hynny, a dod â'r pum brenin allan o'r ogof – brenhinoedd Jerwsalem, Hebron, Iarmwth, Lachish, ac Eglon.

24. Dyma Josua yn galw pobl Israel ato, a dweud wrth gapteiniaid y fyddin, “Dewch yma, a gosod eich traed ar yddfau y brenhinoedd yma.” A dyna wnaethon nhw.

25. Yna dyma Josua'n dweud, “Peidiwch bod ag ofn a panicio! Byddwch yn gryf a dewr! Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud yr un fath i'ch gelynion chi i gyd.”

26. Yna dyma Josua yn dienyddio'r brenhinoedd, ac yn hongian eu cyrff ar bum coeden. Cawson nhw eu gadael yno yn hongian nes iddi nosi.

27. Wedi i'r haul fachlud dyma Josua yn gorchymyn i'r cyrff gael eu cymryd i lawr. Yna dyma nhw'n taflu'r cyrff i'r ogof lle roedden nhw wedi bod yn cuddio, a rhoi cerrig mawr dros geg yr ogof – maen nhw'n dal yna hyd heddiw.

28. Y diwrnod hwnnw hefyd dyma Josua yn concro tref Macceda, a lladd y bobl i gyd a'u brenin. Cafodd pawb eu lladd. Doedd dim un person wedi ei adael yn fyw. Cafodd y brenin ei ladd fel brenin Jericho.

29. Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau i Libna, i ymosod ar y dref honno.

30. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r dref a'i byddin yn nwylo Josua. Cafodd pawb oedd yn byw yno eu lladd. Doedd neb wedi ei adael yn fyw. Cafodd y brenin ei ladd fel brenin Jericho.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 10