Hen Destament

Testament Newydd

Josua 10:1-16 beibl.net 2015 (BNET)

1. Clywodd Adoni-sedec, brenin Jerwsalem, fod Josua wedi concro Ai a lladd y brenin a phawb arall yno, fel roedd e wedi gwneud i Jericho. Clywodd hefyd fod pobl Gibeon wedi gwneud cytundeb heddwch gydag Israel, a'i bod nhw'n byw gyda nhw.

2. Roedd e a'i bobl yn ofni am eu bywydau, achos roedd Gibeon yn dref fawr – roedd hi'n fwy na'r trefi brenhinol eraill i gyd, ac yn fwy nac Ai, a'i dynion i gyd yn ymladdwyr dewr.

3. Felly dyma Adoni-sedec, brenin Jerwsalem, yn anfon neges at frenhinoedd eraill yr ardal (y brenin Hoham yn Hebron, y brenin Piram yn Iarmwth, y brenin Jaffia yn Lachish, a'r brenin Debir yn Eglon):

4. “Dewch gyda mi i ymosod ar Gibeon. Maen nhw wedi gwneud cytundeb heddwch gyda Josua a pobl Israel.”

5. Felly dyma bum brenin yr Amoriaid (brenhinoedd Jerwsalem, Hebron, Iarmwth, Lachish, ac Eglon) yn dod a'u byddinoedd at ei gilydd, ac yn amgylchynu Gibeon yn barod i ymosod arni.

6. A dyma bobl Gibeon yn anfon neges at Josua yn y gwersyll yn Gilgal: “Paid troi cefn arnon ni, dy weision! Achub ni! Helpa ni! Mae brenhinoedd yr Amoriaid, sy'n byw yn y bryniau, wedi ymuno gyda'i gilydd i ymosod arnon ni.”

7. Felly dyma Josua a'i fyddin gyfan, gan gynnwys ei ddynion gorau, yn gadael y gwersyll yn Gilgal i'w helpu nhw.

8. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Paid bod ag ofn. Dw i'n mynd i roi buddugoliaeth i ti. Fydd neb yn gallu dy rwystro di.”

9. Ar ôl martsio drwy'r nos o Gilgal, dyma Josua yn ymosod arnyn nhw'n gwbl ddi-rybudd.

10. Dyma'r ARGLWYDD yn gwneud iddyn nhw banicio, a cawson nhw eu trechu'n llwyr gan Israel yn Gibeon. A dyma byddin Israel yn mynd ar eu holau i lawr drwy fwlch Beth-choron, a lladd nifer fawr yr holl ffordd i Aseca a Macceda.

11. Wrth iddyn nhw ddianc oddi wrth byddin Israel i lawr Bwlch Beth-choron i Aseca, dyma'r ARGLWYDD yn gwneud iddi fwrw cenllysg anferth arnyn nhw. Cafodd mwy eu lladd gan y cenllysg nag oedd wedi eu lladd gan fyddin Israel yn y frwydr!

12. Ar y diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD wneud i Israel orchfygu'r Amoriaid, roedd Josua wedi gweddïo o flaen pobl Israel i gyd:“Haul, stopia yn yr awyruwch ben Gibeon.Ti leuad, saf yn llonydduwch Dyffryn Aialon.”

13. Felly dyma'r haul a'r lleuadyn aros yn eu hunfannes i Israel ddial ar eu gelynion.(Mae'r gerdd yma i'w chael yn Sgrôl Iashar.) Roedd yr haul wedi sefyll yn ei unfan drwy'r dydd, heb fachlud.

14. Does dim diwrnod tebyg erioed wedi bod cyn hynny na wedyn! Diwrnod pan wnaeth yr ARGLWYDD wrando ar orchymyn dyn. Oedd, roedd yr ARGLWYDD yn ymladd dros bobl Israel!

15. A dyma Josua a byddin Israel yn mynd yn ôl i'r gwersyll yn Gilgal.

16. Roedd pum brenin yr Amoriaid wedi dianc a mynd i guddio mewn ogof yn Macceda.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 10