Clywodd Adoni-sedec, brenin Jerwsalem, fod Josua wedi concro Ai a lladd y brenin a phawb arall yno, fel roedd e wedi gwneud i Jericho. Clywodd hefyd fod pobl Gibeon wedi gwneud cytundeb heddwch gydag Israel, a'i bod nhw'n byw gyda nhw.