Hen Destament

Testament Newydd

Joel 3:7-17 beibl.net 2015 (BNET)

7. Wel, dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl. A bydda i'n gwneud i chi dalu am beth wnaethoch chi!

8. Bydda i'n rhoi eich meibion a'ch merched chi i bobl Jwda eu gwerthu nhw. Byddan nhw'n eu gwerthu nhw i'r Sabeaid sy'n byw yn bell i ffwrdd. Dw i, yr ARGLWYDD, wedi dweud!

9. Cyhoedda wrth y cenhedloedd:Paratowch eich hunain i fynd i ryfel.Galwch eich milwyr gorau!Dewch yn eich blaen i ymosod!

10. Curwch eich sychau aradr yn gleddyfau,a'ch crymanau tocio yn waywffyn.Bydd rhaid i'r ofnus ddweud, “Dw i'n filwr dewr!”

11. Brysiwch! Dewch, chi'r gwledydd paganaidd i gyd.Dewch at eich gilydd yno!(“ARGLWYDD, anfon dy filwyr di i lawr yno!”)

12. Dewch yn eich blaen, chi'r cenhedloedd,i Ddyffryn Barn yr ARGLWYDD.Yno bydda i'n eistedd i lawri farnu'r cenhedloedd i gyd.

13. Mae'r cynhaeaf yn barodi'w fedi gyda'r cryman!Mae'r gwinwasg yn llawn grawnwinsy'n barod i'w sathru!Bydd y cafnau yn gorlifo!Maen nhw wedi gwneud cymaint o ddrwg.

14. Mae tyrfaoedd enfawr yn Nyffryn y dyfarniad!Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos yn Nyffryn y dyfarniad!

15. Mae'r haul a'r lleuad wedi tywyllu,a'r sêr wedi diflannu.

16. Mae'r ARGLWYDD yn rhuo o Seion;a'i lais yn taranu o Jerwsalem,nes bod yr awyr a'r ddaear yn crynu.Ond mae'r ARGLWYDD yn lle saff i'w bobl guddio ynddo,mae e'n gaer ddiogel i bobl Israel.

17. Byddwch chi'n deall mai fi ydy'r ARGLWYDD eich Duwa'm bod i'n byw ar Seion, fy mynydd cysegredig.Bydd dinas Jerwsalem yn lle cysegredig,a fydd byddinoedd estron ddim yn mynd yno byth eto.

Darllenwch bennod gyflawn Joel 3