Hen Destament

Testament Newydd

Joel 3:2-11 beibl.net 2015 (BNET)

2. Yna bydda i'n casglu'r cenhedloedd i gydi “Ddyffryn Barn yr ARGLWYDD”Yno bydda i'n eu barnu nhwam y ffordd maen nhw wedi trinfy mhobl arbennig i, Israel.Am eu gyrru nhw ar chwâl i bobman,rhannu y tir rois i iddyn nhw

3. a gamblo i weld pwy fyddai'n eu cael nhw'n gaethion.Gwerthu bachgen bach am wasanaeth putain,a merch fach am win i'w yfed.

4. Pam wnaethoch chi'r pethau yma Tyrus a Sidon ac ardal Philistia? Oeddech chi'n ceisio talu'n ôl i mi? Byddwch chi'n talu yn fuan iawn am beth wnaethoch chi!

5. Dwyn fy arian a'm aur, a rhoi'r trysorau gwerthfawr oedd gen i yn eich temlau paganaidd chi.

6. Gwerthu pobl Jwda a Jerwsalem i'r Groegiaid, er mwyn eu symud nhw yn bell o'u gwlad eu hunain.

7. Wel, dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl. A bydda i'n gwneud i chi dalu am beth wnaethoch chi!

8. Bydda i'n rhoi eich meibion a'ch merched chi i bobl Jwda eu gwerthu nhw. Byddan nhw'n eu gwerthu nhw i'r Sabeaid sy'n byw yn bell i ffwrdd. Dw i, yr ARGLWYDD, wedi dweud!

9. Cyhoedda wrth y cenhedloedd:Paratowch eich hunain i fynd i ryfel.Galwch eich milwyr gorau!Dewch yn eich blaen i ymosod!

10. Curwch eich sychau aradr yn gleddyfau,a'ch crymanau tocio yn waywffyn.Bydd rhaid i'r ofnus ddweud, “Dw i'n filwr dewr!”

11. Brysiwch! Dewch, chi'r gwledydd paganaidd i gyd.Dewch at eich gilydd yno!(“ARGLWYDD, anfon dy filwyr di i lawr yno!”)

Darllenwch bennod gyflawn Joel 3