Hen Destament

Testament Newydd

Job 8:1-13 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Bildad o Shwach yn ymateb:

2. “Am faint wyt ti'n mynd i ddal ati i siarad fel yma?Mae dy eiriau'n wyllt fel gwynt stormus!

3. Ydy Duw yn gwyrdroi cyfiawnder?Ydy'r Un sy'n rheoli popeth yn ystumio beth sy'n iawn?

4. Roedd dy feibion wedi pechu yn ei erbyn,ac mae e wedi gadael iddyn nhw wynebu canlyniadau eu gwrthryfel.

5. Ond os gwnei di droi at Dduwa gofyn i'r Duw sy'n rheoli popeth dy helpu,

6. os wyt ti'n ddi-fai ac yn byw yn iawn,bydd e'n dy amddiffyn di,ac yn dy adfer i dy gyflwr cyfiawn.

7. Er bod dy ddechrau'n fach,bydd dy lwyddiant yn fawr i'r dyfodol.

8. Gofyn i'r genhedlaeth sydd wedi mynd heibio,meddylia am yr hyn wnaeth pobl ddarganfod ers talwm.

9. (Achos dim ond yn ddiweddar y daethon ni i'r golwg, a dŷn ni'n gwybod dim;a dydy'n dyddiau ni ar y ddaear yn ddim ond cysgod.)

10. Byddan nhw'n siŵr o dy ddysgu,ac esbonio beth wnaethon nhw ei ddeall.

11. Ydy papurfrwyn yn gallu tyfu heb gors?Ydy brwyn yn gallu tyfu heb ddŵr?

12. Wrth ddechrau tyfu, cyn bod yn barod i'w torri,bydden nhw'n gwywo'n gynt na'r glaswellt.

13. Dyna sy'n digwydd i'r rhai sy'n anghofio Duw;mae gobaith yr annuwiol yn diflannu –

Darllenwch bennod gyflawn Job 8