1. A dyma Bildad o Shwach yn ymateb:
2. “Pryd wyt ti'n mynd i stopio siarad fel yma?Meddylia am funud, i ni gael cyfle i drafod.
3. Pam wyt ti'n ein trin ni fel anifeiliaid direswm,ac yn ein hystyried ni'n dwp?
4. Cei rwygo dy hun yn ddarnau yn dy wylltineb,ond a fydd trefn pethau yn cael ei newid er dy fwyn di?Fydd y creigiau yn cael eu symud o'u lle?
5. Na, mae golau'r rhai drwg yn cael ei ddiffodd;fydd ei fflam e ddim yn ail gynnau.
6. Mae'r golau yn ei babell yn gwanhau;a'r lamp uwch ei ben yn diffodd.
7. Bydd ei gamau hyderus yn troi'n betrus;a'i gynlluniau ei hun yn ei faglu.
8. Mae'n cerdded yn syth i'r rhwyd,ac yn camu ar y fagl.
9. Mae ei droed yn cael ei dal mewn trap,a'r fagl yn tynhau amdani.
10. Mae rhaff wedi ei chuddio ar y ddaear i'w ddal;mae magl ar ei lwybr.
11. Mae'n cael ei ddychryn o bob cyfeiriad,ac mae ofnau'n ei ddilyn i bobman.
12. Mae trychineb yn ysu amdano;a dinistr yn disgwyl iddo lithro.
13. Mae ei groen yn cael ei fwyta gan afiechyd,a'i gorff yn dioddef y farwolaeth fwya erchyll.