Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 44:1-18 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma neges arall roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am bobl Jwda oedd yn byw yn yr Aifft, yn Migdol ger Tachpanches, a Memffis yn y gogledd, a tir Pathros i'r de hefyd:

2. “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dych chi wedi gweld y dinistr anfonais i ar Jerwsalem a threfi Jwda i gyd. Pentwr o gerrig ydyn nhw bellach, a does neb yn byw ynddyn nhw.

3. Digwyddodd hyn i gyd am fod y bobl yno wedi gwneud cymaint o ddrwg, a'm gwylltio i drwy addoli duwiau eraill a llosgi arogldarth iddyn nhw. Duwiau oedden nhw doeddech chi na'ch hynafiaid yn gwybod dim amdanyn nhw.

4. Roeddwn i'n anfon fy ngweision y proffwydi atoch chi dro ar ôl tro, yn pledio arnoch chi i beidio ymddwyn mor ffiaidd am fy mod i'n casáu'r fath beth!

5. Ond wnaethoch chi ddim gwrando na chymryd unrhyw sylw ohona i. Wnaeth y bobl ddim troi cefn ar eu drygioni na stopio offrymu i'r duwiau eraill.

6. Felly dyma fi'n tywallt fy llid yn ffyrnig arnyn nhw – roedd fel tân yn llosgi drwy drefi Jwda a strydoedd Jerwsalem. Dyna pam maen nhw'n adfeilion diffaith hyd heddiw.’

7. “Felly nawr mae'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, Duw Israel, yn gofyn: ‘Pam ydych chi'n dal ati i wneud niwed i chi'ch hunain? Pam ddylai pob dyn, gwraig, plentyn a babi bach gael ei gipio i ffwrdd o Jwda, fel bod neb o gwbl ar ôl?

8. Pam dych chi'n fy ngwylltio i drwy addoli eilunod dych chi eich hunain wedi eu cerfio? Ac yma yn yr Aifft, lle daethoch chi i fyw, dych chi'n llosgi arogldarth i dduwiau eraill. Ydych chi eisiau cael eich torri i ffwrdd? Ydych chi eisiau bod yn esiampl o bobl wedi eu melltithio ac yn destun sbort yng ngolwg y gwledydd i gyd?

9. Ydych chi wedi anghofio'r holl ddrwg wnaeth eich hynafiaid yng ngwlad Jwda ac ar strydoedd Jerwsalem – y drwg wnaeth brenhinoedd Jwda a'u gwragedd, a chi eich hunain a'ch gwragedd?

10. Does neb wedi dangos eu bod nhw'n sori o gwbl! Does neb wedi dangos parch ata i, na byw'n ffyddlon i'r ddysgeidiaeth a'r rheolau rois i i chi a'ch hynafiaid.’

11. “Felly dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i'n bendant yn mynd i ddod â dinistr arnoch chi. Dw i'n mynd i gael gwared â chi'n llwyr.

12. Byddwch chi i gyd yn marw – pawb oedd ar ôl yn Jwda ac wnaeth benderfynu dod i fyw i'r Aifft, yn bobl gyffredin ac arweinwyr. Byddwch chi i gyd yn cael eich lladd yn y rhyfel neu'n marw o newyn. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd i chi, a byddwch yn destun sbort ac yn esiampl o bobl wedi eich melltithio.

13. Dw i'n mynd i gosbi'r rhai sy'n byw yn yr Aifft, fel gwnes i gosbi pobl Jerwsalem. Dw i'n mynd i'w taro nhw gyda rhyfel, newyn a haint.

14. Fydd neb o bobl Jwda oedd ar ôl ac a aeth i lawr i'r Aifft yn dianc. Maen nhw'n hiraethu am gael mynd yn ôl i wlad Jwda, ond gân nhw ddim – ar wahân i lond dwrn o ffoaduriaid.’”

15. Dyma'r dynion oedd yn gwybod bod eu gwragedd wedi bod yn llosgi arogldarth i dduwiau eraill, a'r gwragedd oedd yno hefyd, yn ateb Jeremeia. (Roedd tyrfa fawr ohonyn nhw – sef pobl Jwda oedd yn byw yn Pathros, de'r Aifft.)

16. “Ti'n dweud dy fod ti'n siarad ar ran yr ARGLWYDD. Wel, dŷn ni ddim yn mynd i wrando arnat ti!

17. Dŷn ni wedi addo llosgi arogldarth a thywallt offrwm o ddiod i'r dduwies ‛Brenhines y Nefoedd‛. Roedd ein hynafiaid a'n brenhinoedd a'n harweinwyr yn gwneud hynny yn nhrefi Jwda ac ar strydoedd Jerwsalem, a bryd hynny roedd gynnon ni ddigon o fwyd, roedd pethau'n dda arnon ni a doedd dim trafferthion.

18. Ond ers i ni stopio llosgi arogldarth a thywallt offrwm o ddiod iddi, dŷn ni wedi bod mewn angen – mae llawer o'n pobl ni wedi cael eu lladd yn y rhyfel neu wedi marw o newyn.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 44