Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52

Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 44 beibl.net 2015 (BNET)

Neges yr ARGLWYDD i bobl Jwda oedd yn yr Aifft

1. Dyma neges arall roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am bobl Jwda oedd yn byw yn yr Aifft, yn Migdol ger Tachpanches, a Memffis yn y gogledd, a tir Pathros i'r de hefyd:

2. “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dych chi wedi gweld y dinistr anfonais i ar Jerwsalem a threfi Jwda i gyd. Pentwr o gerrig ydyn nhw bellach, a does neb yn byw ynddyn nhw.

3. Digwyddodd hyn i gyd am fod y bobl yno wedi gwneud cymaint o ddrwg, a'm gwylltio i drwy addoli duwiau eraill a llosgi arogldarth iddyn nhw. Duwiau oedden nhw doeddech chi na'ch hynafiaid yn gwybod dim amdanyn nhw.

4. Roeddwn i'n anfon fy ngweision y proffwydi atoch chi dro ar ôl tro, yn pledio arnoch chi i beidio ymddwyn mor ffiaidd am fy mod i'n casáu'r fath beth!

5. Ond wnaethoch chi ddim gwrando na chymryd unrhyw sylw ohona i. Wnaeth y bobl ddim troi cefn ar eu drygioni na stopio offrymu i'r duwiau eraill.

6. Felly dyma fi'n tywallt fy llid yn ffyrnig arnyn nhw – roedd fel tân yn llosgi drwy drefi Jwda a strydoedd Jerwsalem. Dyna pam maen nhw'n adfeilion diffaith hyd heddiw.’

7. “Felly nawr mae'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, Duw Israel, yn gofyn: ‘Pam ydych chi'n dal ati i wneud niwed i chi'ch hunain? Pam ddylai pob dyn, gwraig, plentyn a babi bach gael ei gipio i ffwrdd o Jwda, fel bod neb o gwbl ar ôl?

8. Pam dych chi'n fy ngwylltio i drwy addoli eilunod dych chi eich hunain wedi eu cerfio? Ac yma yn yr Aifft, lle daethoch chi i fyw, dych chi'n llosgi arogldarth i dduwiau eraill. Ydych chi eisiau cael eich torri i ffwrdd? Ydych chi eisiau bod yn esiampl o bobl wedi eu melltithio ac yn destun sbort yng ngolwg y gwledydd i gyd?

9. Ydych chi wedi anghofio'r holl ddrwg wnaeth eich hynafiaid yng ngwlad Jwda ac ar strydoedd Jerwsalem – y drwg wnaeth brenhinoedd Jwda a'u gwragedd, a chi eich hunain a'ch gwragedd?

10. Does neb wedi dangos eu bod nhw'n sori o gwbl! Does neb wedi dangos parch ata i, na byw'n ffyddlon i'r ddysgeidiaeth a'r rheolau rois i i chi a'ch hynafiaid.’

11. “Felly dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i'n bendant yn mynd i ddod â dinistr arnoch chi. Dw i'n mynd i gael gwared â chi'n llwyr.

12. Byddwch chi i gyd yn marw – pawb oedd ar ôl yn Jwda ac wnaeth benderfynu dod i fyw i'r Aifft, yn bobl gyffredin ac arweinwyr. Byddwch chi i gyd yn cael eich lladd yn y rhyfel neu'n marw o newyn. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd i chi, a byddwch yn destun sbort ac yn esiampl o bobl wedi eich melltithio.

13. Dw i'n mynd i gosbi'r rhai sy'n byw yn yr Aifft, fel gwnes i gosbi pobl Jerwsalem. Dw i'n mynd i'w taro nhw gyda rhyfel, newyn a haint.

14. Fydd neb o bobl Jwda oedd ar ôl ac a aeth i lawr i'r Aifft yn dianc. Maen nhw'n hiraethu am gael mynd yn ôl i wlad Jwda, ond gân nhw ddim – ar wahân i lond dwrn o ffoaduriaid.’”

15. Dyma'r dynion oedd yn gwybod bod eu gwragedd wedi bod yn llosgi arogldarth i dduwiau eraill, a'r gwragedd oedd yno hefyd, yn ateb Jeremeia. (Roedd tyrfa fawr ohonyn nhw – sef pobl Jwda oedd yn byw yn Pathros, de'r Aifft.)

16. “Ti'n dweud dy fod ti'n siarad ar ran yr ARGLWYDD. Wel, dŷn ni ddim yn mynd i wrando arnat ti!

17. Dŷn ni wedi addo llosgi arogldarth a thywallt offrwm o ddiod i'r dduwies ‛Brenhines y Nefoedd‛. Roedd ein hynafiaid a'n brenhinoedd a'n harweinwyr yn gwneud hynny yn nhrefi Jwda ac ar strydoedd Jerwsalem, a bryd hynny roedd gynnon ni ddigon o fwyd, roedd pethau'n dda arnon ni a doedd dim trafferthion.

18. Ond ers i ni stopio llosgi arogldarth a thywallt offrwm o ddiod iddi, dŷn ni wedi bod mewn angen – mae llawer o'n pobl ni wedi cael eu lladd yn y rhyfel neu wedi marw o newyn.”

19. A dyma'r gwragedd oedd yno'n dweud, “Mae'n wir ein bod ni wedi bod yn llosgi arogldarth a thywallt offrwm o ddiod i Frenhines y Nefoedd, ond wyt ti'n meddwl ein bod ni wedi bod yn gwneud cacennau a thywallt offrwm o ddiod iddi heb fod ein gwŷr yn gwybod am y peth ac yn ein cefnogi?”

20. A dyma Jeremeia yn eu hateb nhw, y dynion a'u gwragedd:

21. “Wnaeth yr ARGLWYDD ddim anghofio'r arogldarth wnaethoch chi ei losgi i eilun-dduwiau ar strydoedd Jerwsalem. Roeddech chi a'ch hynafiaid, eich brenhinoedd a'ch swyddogion, a'r bobl gyffredin yn gwneud hynny.

22. A doedd yr ARGLWYDD ddim yn gallu diodde'r holl ddrwg a'r pethau ffiaidd roeddech chi'n eu gwneud. Cafodd y wlad ei dinistrio a'i difetha'n llwyr ganddo. Cafodd ei gwneud yn esiampl o wlad wedi ei melltithio. Does neb yn byw yno heddiw.

23. Am eich bod chi wedi llosgi arogldarth i dduwiau eraill; am eich bod chi wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD a gwrthod gwrando arno; am eich bod chi ddim wedi byw fel dysgodd e chi, a chadw ei reolau a'i ddeddfau – dyna pam mae'r dinistr yma wedi digwydd.”

24. Yna dyma Jeremeia yn dweud fel hyn wrthyn nhw, yn arbennig y gwragedd: “Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD, chi bobl Jwda sydd yng ngwlad yr Aifft.

25. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dych chi'r gwragedd wedi gwneud yn union beth roeddech chi'n ddweud! Roeddech chi'n dweud eich bod chi wedi addo llosgi arogldarth a thywallt offrwm o ddiod i Frenhines y Nefoedd, ac mai dyna oeddech chi'n mynd i'w wneud. Iawn! Ewch ymlaen! Cadwch eich gair!’

26. Ond gwrandwch ar beth sydd gan yr ARGLWYDD i'w ddweud wrthoch chi: ‘Dw i wedi tyngu llw i'm enw mawr fy hun,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Fydd neb o bobl Jwda sydd yn yr Aifft yn galw arna i na dweud, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD, ein Meistr, yn fyw …”

27. Dw i'n gwylio, i wneud yn siŵr mai drwg fydd yn digwydd iddyn nhw, dim da. Byddan nhw'n cael eu lladd yn y rhyfel ac yn marw o newyn. Fydd neb ar ôl!

28. Ychydig iawn iawn fydd yn llwyddo i ddianc rhag y cleddyf. Byddan nhw'n mynd yn ôl i wlad Jwda o'r Aifft. Bydd y bobl o Jwda ddaeth i fyw i wlad yr Aifft yn gwybod mai beth dw i'n ddweud sy'n wir, nid beth maen nhw'n ddweud!

29. Byddwch chi'n gwybod wedyn fod y dinistr dw i'n ei fygwth yn mynd i ddigwydd. A dyma'r prawf fy mod i'n mynd i'ch cosbi chi,’ meddai'r ARGLWYDD:

30. ‘Dw i'n mynd i roi Pharo Hoffra, brenin yr Aifft, yng ngafael y gelynion sydd eisiau ei ladd. Bydd yn union fel y gwnes i Sedeceia, brenin Jwda, pan gafodd ei ddal gan Nebwchadnesar, brenin Babilon, oedd am ei ladd e.’”