Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52

Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 19 beibl.net 2015 (BNET)

Y Jwg oedd wedi torri.

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Dos i brynu jwg gan y crochenydd. Wedyn dos ag arweinwyr y bobl a'r offeiriaid hynaf gyda ti

2. i ddyffryn Ben-hinnom sydd tu allan i Giât y Sbwriel. Yno, dywed wrthyn nhw beth dw i'n ddweud wrthot ti.

3. Dywed, ‘Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD, frenhinoedd Jwda a phobl Jerwsalem. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i ddod â dinistr ofnadwy i'r lle yma. Bydd pawb fydd yn clywed am y peth yn geg agored.

4. Mae'r bobl yma wedi troi cefn arna i, a gwneud y lle yma fel lle estron. Maen nhw wedi llosgi arogldarth i dduwiau eraill – duwiau nad oedden nhw na'u hynafiaid na brenhinoedd Jwda yn gwybod dim amdanyn nhw! Ac maen nhw wedi tywallt gwaed plant diniwed yma!

5. Maen nhw wedi adeiladu allorau paganaidd, ac wedi llosgi eu plant yn aberth i Baal. Wnes i erioed ddweud wrthyn nhw am wneud hynny. Fyddai'r fath beth byth yn croesi fy meddwl i!

6. “‘“Felly mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydd neb yn galw'r lle yn Toffet neu ddyffryn Ben-hinnom. Dyffryn y Lladdfa fydd enw'r lle.

7. Bydda i'n drysu cynlluniau pobl Jwda a Jerwsalem. Byddan nhw'n cael eu lladd gan eu gelynion yn y rhyfel. Bydd adar ac anifeiliaid gwylltion yn bwyta eu cyrff nhw.

8. Bydd y ddinas yma'n cael ei dinistrio'n llwyr. Bydd pawb sy'n pasio heibio wedi dychryn am eu bywydau, ac yn chwibanu mewn rhyfeddod wrth weld y dinistr.

9. Bydda i'n gwneud iddyn nhw fwyta eu meibion a'u merched. Byddan nhw'n bwyta cyrff pobl am fod y sefyllfa wedi mynd mor ddrwg, a'r gelynion yn gwarchae arnyn nhw ac yn rhoi'r fath bwysau arnyn nhw.”’

10. “Wedyn dw i eisiau i ti falu'r jwg yn deilchion o flaen y dynion fydd wedi mynd hefo ti,

11. yna dweud wrthyn nhw fod yr ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud: ‘Dw i'n mynd i ddryllio'r wlad yma a'r ddinas, yn union fel cafodd y jwg yma ei dorri'n deilchion. Does dim gobaith ei drwsio! Bydd cyrff yn cael eu claddu yma yn Toffet nes bydd dim lle ar ôl!

12. A bydd hi'r un fath ar y ddinas yma a'i phobl,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Bydd hi fel Toffet yma!

13. Am fod pobl wedi aberthu i'r sêr, a thywallt offrwm o ddiod i dduwiau eraill ar doeau'r tai a thoeau palasau brenhinoedd Jwda, bydd Jerwsalem hefyd wedi ei llygru gan gyrff yr un fath â Toffet.’”

Jeremeia'n cyhoeddi dinistr

14. Ar ôl dod yn ôl o Toffet, ble roedd yr ARGLWYDD wedi ei anfon i broffwydo, dyma Jeremeia'n mynd i deml yr ARGLWYDD a sefyll yn yr iard ac annerch y bobl yno.

15. “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Yn fuan iawn dw i'n mynd i ddod â dinistr ar y ddinas yma a'r pentrefi sydd o'i chwmpas, yn union fel y dwedais i. Mae'r bobl wedi bod mor benstiff, a gwrthod gwrando arna i.’”